Hannah Jones fydd yn gapten ar Fenywod Cymru am ei gêm olaf yn y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban dydd Sadwrn (17:00)
Bydd Jones yn arwain ochr sydd yn dangos naw o newidiadau o’r tîm wynebodd Iwerddon pythefnod yn ôl.
Mae’r canolwraig yn derbyn capteiniaeth o’r wythwr Siwan Lilicrap, sydd wedi anafu ei phigwrn. Georgia Evans fydd yr is-gapten.
Mewnwr Megan Davies fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru, a dechreuad cyntaf yn y Chwe Gwlad – a’r cyntaf fel bachwr – i Robyn Lock.
Mae’r Scarlet Jasmine Joyce yn dychwelyd o ddyletswydd saith bob ochr Prydain ac yn cychwyn fel cefnwr, Caitlin Lewis fydd ar yr asgell chwith a Gemma Rowland yn y canol gyda Kerin Lake ddim ar gael. Robyn Wilkins fydd yn dychwelyd i’w safle fel maswr.
Gyda Lilicrap allan, mae Bethan Dainton yn dod i mewn i’r rheng ôl ar yr ochr olau, Manon Johnes shifts yn newid i ochr dywyll a Goergia Evans yn newid i rhif 8. Caryl Thomas, Donna Rose a Teleri Wyn-Davies sydd yn dechrau yn y pum blaen.
Bydd Gwenllian Jenkins, Abbie Fleming, Shona Powell-Hughes, Jade Knight a Megan Webb i gyd am wneud eu ymddangosiadau cyntaf yn y Chwe Gwlad oddi’r fainc.
Dywedodd Abrahams, “Rydym yn edrych ymlaen at y gyfle i fynd allan unwaith eto yng ngêm Chwe Gwlad a cael gwisgo’r crys.
“Mae gennym rhai anafiadau – mae Siwan yn enwedig yn golled mawr fel capten ac un o’n chwaraewyr disglair – ond mae hyn hefyd yn gyfle i chwaraewyr eraill i ddangos eu doniau cyn Cwpan y Byd blwyddyn nesaf.
“Mae’n braf cael gweld chwaraewyr yn derbyn cyfrifoldebau ychwaneol gyda Hannah Jones fel capten ac un o’r arweinwyr arall Georgia yn camu i fyny fel is-gapten.
“Rwy’n edrych ymlaen i weld y chwarewyr ifanc yn y cefn fel Meg Davies a Caitlin Lewis sydd yn ysu am gyfle a fydd Jaz heb os yn ychwanegu dyfnder i’r cefnwyr.
“Mae’n anrhydedd i fod yn y sefyllfa hon, nad yw’r cyfleoedd yma yn dod rownd yn aml felly mae rhaid cymryd cyfrifoldeb nawr a gwneud y mwyaf ohoni.
“Rydym yn ymwybodol cawsom dehcreuad gwael yn ein dau gêm cyntaf, ond mae rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ar dân o’r cychwyn a adeiladu o hynny.
“Dwi wastad yn credu ynddyn nhw, ac os allyn nhw fod yn y feddylfryd gorau, gwneud penderfyniadau da, fe allwn ddangos eu gallu.”
Menywod Cymru v Yr Alban
Jasmine Joyce; Lisa Neumann, Gemma Rowland, Hannah Jones (capt), Caitlin Lewis; Robyn Wilkins, Megan Davies; Caryl Thomas, Robyn Lock, Donna Rose, Natalia John, Teleri Wyn Davies, Manon Johnes, Bethan Dainton, Georgia Evans (is-gapten)
Eilyddion: Kelsey Jones, Gwenllian Jenkins, Cerys Hale, Gwen Crabb, Shona Powell-Hughes, Abbie Fleming, Jade Knight, Megan Webb