Bydd hyfforddwr cynorthwyol y Scarlets, Stephen Jones, yn ymuno â Wayne Pivac fel rhan o grŵp hyfforddi Cymru ar ôl Cwpan y Byd 2019.
Ymunodd Jones, 41 mlwydd oed, â thîm hyfforddi’r Scarlets cyn tymor 2015-16 wrth i Wayne Pivac aildrefnu’r tîm hyfforddi.
Gyda thros 300 o ymddangosiadau ar gyfer y Scarlets fel maswr mae Jones, un o ffefrynnau’r cefnogwyr, gan chwarae ei gêm gyntaf yn 1996.
Chwaraeodd Jones 104 o gemau i Gymru yn ystod gyrfa ryngwladol 13 blynedd a chynrychiolodd y Llewod.
Ar ôl hongian ei esgidiau yn 2013, aeth yn syth i mewn i hyfforddiant yn Wasps. Ym mis Awst 2015 dychwelodd Jones i Gymru i fod yn rhan o dîm hyfforddi Pivac yn y Scarlets a helpodd y rhanbarth i godi’r teitl Guinness PRO12 yn 2017.
Meddai Rheolwr Cyffredinol y Scarlets, Jon Daniels; “Hoffem longyfarch Stephen ar ei benodiad fel hyfforddwr cynorthwyol Cymru.
“Mae wedi bod yn rhan bwysig o’r tîm hyfforddi yma yn y rhanbarth dros y blynyddoedd diwethaf, gan helpu’r rhanbarth i gyrraedd camau olaf cystadleuaeth Guinness PRO14 a Chwpan Pencampwyr Heineken, ond roedd hefyd yn rhan hanfodol o’r tîm hyfforddi a arweiniodd y garfan at ennill Guinness PRO12 yn 2016-17.
“Mae’n ddrwg gennym weld Stephen yn gadael y rhanbarth ond bydd yn gadael gyda’n diolch ac rydym yn dymuno’r gorau iddo gyda’r her newydd gyffrous hon.
“Rydyn ni mewn sefyllfa gref yn y Guinness PRO14 ac mae gennym amser cyffrous ymlaen wrth inni geisio sicrhau lle yng nghamau olaf y gystadleuaeth unwaith eto.”
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Stephen Jones; “Rydw i’n hynod o gyffrous â’r cyfle.
“Mae’n anrhydedd mawr cael hyfforddi eich gwlad ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets am y cyfle a gefais gyda hwy ac am eu cefnogaeth barhaus.
“Tra’n gyffrous gan y rôl hon, mae fy ffocws yn llawn ar y Scarlets a gweddill ein hymgyrch.”