Y canolwr Joe Roberts sydd wedi’i anrhydeddu’n gapten ar dîm datblygedig y Scarlets yn erbyn y Gweilch A ar nos Wener (cg 7yh).
Bydd y chwaraewr 21 oed yn arwain ochr sy’n dangos chwe newid ers y gêm penwythnos diwethaf yn erbyn y Dreigiau A yn Rodney Parade.
Yn y tri ôl, mae Josh Phillips, a oedd yn eilydd yng Nghasnewydd, yn dechrau fel cefnwr gyda Tom Rogers yn newid i asgellwr chwith a Eddie James ar y dde. Callum Williams sy’n colli mas oherwydd anaf a gafwyd yn ystod gêm y Dreigiau.
Mae Roberts yn parhau’r bartneriaeth yng nghanol cae gyda Tyler Morgan, wrth i’r chwaraewr rhyngwladol Rhys Patchell cael cyfle arall yng nghrys rhf 10 ar ôl wneud ei ymddangosiad cyntaf yn ei dilyn ei anaf. Bydd Patchell yn bartner i’r mewnwr Luke Davies.
Yn y rheng flaen, mae Steff Thomas, bachwr Academi’r Scarlets Morgan MacRae ac Harri O’Connor; Jac Price a Morgan Jones sy’n parhau yn yr ail reng, wrth i’r rheng ôl weld Caleb Salmon, Iestyn Rees a Carwyn Tuipulotu eto.
Mae llawer o dalent ifanc ymysg yr eilyddion gan gynnwys blaenwyr yr Academi Lewis Morgan a Luca Giannini, Osian Davies a Griff Evans o Glwb Rygbi Llanymddyfri a Sam Earl Jones a Bradley Roderick-Evans o Met Caerdydd.
Tîm Datblygu Scarlets v Gweilch A (Parc y Scarlets; Dydd Gwener, Tach 19; 7yh)
15 Josh Phillips; 14 Eddie James, 13 Tyler Morgan, 12 Joe Roberts (capt), 11 Tom Rogers; 10 Rhys Patchell, 9 Luke Davies; 1 Steff Thomas, 2 Morgan MacRae, 3 Harri O’Connor, 4 Morgan Jones, 5 Jac Price, 6 Caleb Salmon, 7 Iestyn Rees, 8 Carwyn Tuipulotu.
Reps: 16 Lewis Morgan, 17 Phil Price, 18 Alex Jeffries, 19 Osian Davies, 20 Griff Evans, 21 Lucca Giannini, 22 Archie Hughes, 23 Sam Earl-Jones, 24 Josh Hathaway, 25 Bradley Roderick-Evans.
Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar ein sianeli Facebook a Youtube