Bydd Josh Macleod yn gwneud ei 100fed ymddangosiad i’r Scarlets ar Ddydd Sadwrn yn ystod y drydedd rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn Benetton yn Nhreviso (17:15, S4C, Premier Sports).
Gwnaeth y chwaraewr rheng ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2015, a fe yw’r chwaraewr diweddaraf i ymuno â’r clwb cant.
Bydd y gêm ar Ddydd Sadwrn hefyd yn gweld dychweliad chwaraewyr rhyngwladol a’r Llewod Leigh Halfpenny a Ken Owens yn lliwiau’r Scarlets.
Bydd Halfpenny, a fydd yn ennill ei 50fed, yn ymddangos am y tro cyntaf ers anafu ei benglin yn ystod gemau Haf Cymru nôl yn 2021. Chwaraeodd Owens hanner gêm i Cwins Caerfyrddin yn yn Gynghrair Indigo penwythnos diwethaf ac wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.
Halfpenny sy’n dechrau fel cefnwr mewn tîm o XV sy’n dangos saith newid ers y gêm golledig yn erbyn Ulster. Yn ei ymuno yn y tri ôl mae Steff Evans – sydd wedi gwella o anaf hamstring – a Ryan Conbeer. Y capten Jonathan Davies a Johnny Williams fydd y canolwyr am y drydedd gêm yn olynol.
Mae yna newid i’r haneri wrth i Dan Jones a Kieran Hardy dod i mewn yn lle Sam Costelow a Gareth Davies.
Fel bachwr, mae Shaun Evans yn dychwelyd o anaf ac yn cychwyn yn y rheng flaen sydd eto yn cynnwys Steff Thomas a Javan Sebastian. Tom Price sydd yn dod i mewn wrth ochr Sam Lousi fel cloeon gyda Vaea Fifita yn symud i’r rheng ôl wrth ochr Sione Kalamafoni a Macleod
Ar y fainc, mae Wyn Jones wedi’i enwi ar ôl colli’r gêm penwythnos diwethaf, yn ogystal â Johnny McNicholl sydd wedi cwblhau protocolau anaf i’r pen. Bydd Blade Thomson yn gwneud ei 50fed ymddangosiad i’r clwb os yn dod oddi’r fainc, tra bod Morgan Jones a Dane Blacker yn paratoi am eu ymddangosiadau URC cyntaf o’r tymor.
Dywedodd prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Fe all gemau blaenorol Benetton dangos eu cryfder gartef, blaenwyr cryf a chadarn gyda athletwyr da yn y pac. Rhaid chwarae yn yr ardal cywir wrth ystyried bu nhw’n rhoi’r pwysau ymlaen, rhaid i ni sicrhau bod ein tiriogaeth yn dda ac yn cymryd y cyfleoedd wrth iddyn nhw ddod.”
Scarlets v Benetton Rugby (Stadio Monigo; Saturday, Hyd 1; 5.15yp S4C & Premier Sports)
15 Leigh Halfpenny; 14 Steff Evans, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Johnny Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Steff Thomas, 2 Shaun Evans, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Tom Price, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod, 8 Sione Kalamafoni.
Eilyddion: 16 Ken Owens, 17 Wyn Jones, 18 Harri O’Connor, 19 Morgan Jones, 20 Blade Thomson, 21 Dane Blacker, 22 Rhys Patchell, 23 Johnny McNicholl.
Ddim ar gael
Ioan Nicholas, Tomás Lezana, Tom Rogers, Aaron Shingler, Scott Williams, Dan Davis, Phil Price, Lewis Rawlins, Joe Roberts, Carwyn Tuipulotu, Callum Williams, Kemsley Mathias, Samson Lee, Griff Evans, Josh Helps.