Josh Macleod wedi’i enwi yn gapten y Scarlets am dymor 2024-25

Rob LloydNewyddion

Cadarnhau mai Josh Macleod yw capten y Scarlets am dymor 2024-25.

Bydd y chwaraewr rheng ôl yn arwain y clwb am yr ail dymor yn olynol.

Wedi’i fagu yn Sir Benfro, arweiniodd y chwaraewr 27 oed y Scarlets i mewn i gêm gynderfynol Cwpan Her EPCR yn yr ail hanner o dymor 2022-23 cyn cymryd yr awenau yn swyddogol oddi wrth un o arwyr y Scarlets Jonathan Davies.

Yn dilyn cyfuniad o anafiadau, chwaraeodd Josh ond tair gêm tymor diwethaf, ond mae’r chwaraewr rhyngwladol yn agos at ddychwelyd i’r cae.

Mae Josh wedi ymddangos 115 o weithiau i’r Scarlets ers chwarae ei gêm gyntaf yn 2015. Mae ei berfformiadau arbennig yng nghrys y Scarlets wedi arwain at ei gap cyntaf yn erbyn Georgia ym mis Tachwedd 2022 a gafodd ei enwi yng ngharfan Cwpan Rygbi’r Byd 2023 Cymru cyn cael ei rhyddhau yn dilyn anaf i’w ysgwydd.

Yn aelod uchel ei bach o’r garfan, mae Josh yn ysu am y cyfle i arwain ei dîm eto.

Dywedodd Josh: “Mae’n anrhydedd mawr i mi ac i fy nheulu. Mae’r clwb wedi seilio ar hanes o dros 150 mlynedd ac mae cael chwarae rhan fach o hynny yn fraint.

“Yn bersonol, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ansicr iawn, llawer o gyfnodau anodd, ond rwy’n gobeithio bod nôl mas yn fuan, fuan iawn. Ni’n agos iawn.”

Wrth gael ei ofyn amdano’r aelodau newydd eleni, ychwanegodd: “Rwy’n credu gwnaeth rhywun sôn bod tua 1,500 o ymddangosiadau Scarlets wedi gadael y clwb, ond mae’r wynebau newydd sydd wedi dod mewn yn barod wedi creu argraff. Mae egni da yma, awyrgylch da ac mae pawb yn barod am wynebu Treviso penwythnos yma.

“Mae’r dalent ifanc sydd yn datblygu yma yn gyffrous iawn. Mae’r bois yna wedi camu i fyny at yr her ac wedi delio gyda hynny yn arbennig. Mae’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr profiadol i gyd yn gweithio gyda nhw, ac yn araf fach mae’r bois yn datblygu i mewn i chwaraewyr o fri.”

Yn edrych ymlaen at y gêm gartref penwythnos nesaf yn erbyn Caerdydd, dywedodd Josh: “Gobeithio fe allwn gael y stadiwm yn bownsio unwaith eto.”

Ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets: “mae Josh wedi datblygu mewn i arweinydd ar y cae ac oddi arno dros y tymhorau diwethaf. Wedi’i fagu yn y rhanbarth, a thyfu i fyny yn cefnogi’r Scarlets mae’n deall beth mae’n golygu i gynrychioli’r clwb anhygoel yma.

“Fe yw’r fath o chwaraewr sydd yn arwain o esiampl, yn rhoi 100% i bob peth a dyna’r fath o angerdd ac ymrwymiad sydd angen – dyna beth sy’n ddylanwadol.

“Mae’n wych i’w weld nôl yn ymarfer gan iddo ddod a gymaint o ddwyster i bob peth mae’n ei wneud a beth sydd o’i amgylch.

“Edrychwn ymlaen at ei weld yng nghrys y Scarlet eto, fel rwy’n siŵr mae bob un cefnogwr.”