Y capten Josh Macleod sy’n dychwelyd o anaf i arwain y Scarlets i mewn i’r gêm hollbwysig yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn DHL Stormers ym Mharc y Scarlets (15:00; S4C, Premier Sports).
Mae Macleod wedi colli’r dwy gêm ddiwethaf oherwydd anaf llinyn y gar ac wedi ymddangos fel un o chwe newid i’r ochr a chwaraewyd yn erbyn Ulster ar ddechrau’r mis.
Y chwaraewyr rhyngwladol Ellis Mee, Eddie James, Taine Plumtree, Kemsley Mathias a Henry Thomas sydd wedi’u henwi yn y garfan am ddydd Sadwrn, er mae Blair Murray yn colli mas ar gael ei gynnwys trwy anaf coes.
Mee sydd wedi’i alw i mewn i’r tri ôl wrth ochr Ioan Nicholas a Macs Page, y ddau wedi croesi am geisiau yn Stadiwm Kingspan.
James a Roberts sydd yn cyfuno yng nghanol cae. Mae Johnny Williams yn absennol oherwydd anaf a gafwyd yn ystod ymarferion yn yr wythnos.
Ioan Lloyd a Gareth Davies sy’n parhau fel ein haneri.
Yn y rheng flaen, Marnus van der Merwe sy’n dychwelyd i safle’r bachwr i gydweithio ag Alec Hepburn a Sam Wainwright.
Yn cadw’r bartneriaeth yn yr ail reng mae Alex Craig a Sam Lousi.
Gyda Macleod fel capten, mae Josh yn rhan o reng ôl newydd gyda Vaea Fifita a Taine Plumtree.
On the bench, Ryan Elias, Kemsley Mathias and Henry Thomas provide an all-Wales international front row as cover. Former Stormer Jarrod Taylor and Dan Davis also are the other forward replacements. Archie Hughes, Charlie Titcombe and Tomi Lewis will cover the backline.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Os welwch pa mor dynn yw hi ar y foment yn y bencampwriaeth mae’n amlwg bydd yna gystadleuaeth ffyrnig am le yn yr wyth uchaf. Mae ein ffurf wedi bod yn wych yn Llanelli’r tymor hwn gyda’r cefnogwyr tu ôl i ni bob cam. Bydd angen y cymorth yna arnyn nhw yn erbyn y Stormers sydd yn dod yma gyda charfan lawn a nifer o Springboks nôl o anaf.”
Tîm y Scarlets i chwarae’r DHL Stormers ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Mawrth 20 (3pm; S4C & Premier Sports)
15 Ioan Nicholas; 14 Macs Page 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Sam Wainwright, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Kemsley Mathias, 18 Henry Thomas, 19 Jarrod Taylor, 20 Dan Davis, 21 Archie Hughes, 22 Charlie Titcombe, 23 Tomi Lewis.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Blair Murray, Johnny Williams, Tom Rogers, Max Douglas, Sam Costelow, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Josh Morse.