Mae blaenasgellwr y Scarlets, Josh Macleod, wedi ennill ail wobr chwaraewr y mis Intersport Scarlets ar ôl cyrraedd y brig ar gyfer pleidlais mis Chwefror.
Mae Macleod wedi mwynhau ymgyrch ragorol ac mae allan ar y blaen yn siartiau Guinness PRO14 ar gyfer trosiant y tymor hwn
Roedd yn seren y gêm yn y fuddugoliaeth pwynt bonws dros Isuzu Southern Kings a rhoddodd arddangosfeydd cryf yn y trech i Gaeredin a Munster.
Aeth y chwaraewr 23 oed, a enillodd wobr mis Tachwedd hefyd, â phleidlais y cefnogwyr o flaen Aaron Shingler, Angus O’Brien a Tevita Ratuva.
Enillwyr blaenorol y wobr a noddir gan Intersport yw Kieran Hardy (Hydref), Macleod (Tachwedd), Leigh Halfpenny (Rhagfyr) ac Uzair Cassiem (Ionawr).
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael manylion pleidlais mis Mawrth.