Ken a Wyn i ddechrau yn erbyn tîm A De Affrica

Rob LloydFeatured, Newyddion

Chwaraewyr rheng flaen y Scarlets Ken Owens a Wyn Jones fydd yn dechrau yn nhîm y Llewod yn erbyn tîm ‘A’ De Affrica yn Cape Town ar ddydd Mercher Gorffennaf 14 (cic gyntaf 7yh BST).

Yn ymuno’r pâr yn y garfan 23 dyn mae eu cyd-chwaraewyr Scarlet Gareth Davies, sydd wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.

Capten y daith Connor Murray (Munster, Iwerddon) bydd yn gapten ar y XV sydd yn dangos 12 newid i’r tîm a drechodd Cell C Sharks 31-71 yn Loftus Versfeld ar nos Sadwrn, gyda Anthony Watson (Bath Rugby, Lloegr), Chris Harris (Gloucester, Yr Alban) a Dan Biggar (Northampton, Cymru) yn cadw eu safle.

Mae Watson yn symud o’r asgell dde i gefnwr gyda Harris yn symud i 13 lle mae Bundee Aki (Connacht Rugby, Iwerddon) yn ei ymuno yng nghanol cae. Bydd Biggar yn cychwyn fel maswr.

Bydd y gêm yn erbyn tîm ‘A’ De Affrica yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Sky Sports a dyma’r pedwerydd gêm yn y gyfres o wyth gêm sydd yn gorffen gyda tair gêm yn erbyn pencampwyr y byd, y Springboks.

“Rydym yn falch iawn i gyrraedd Cape Town wrth i ni agosau at hanner ffordd yn y gyfres,” dywedodd Gatland.

“Dyma fydd ein gêm anoddaf mor belled ar ddydd Mercher yn erbyn tîm ‘A’ De Affrica ers i ni gyrraedd ac rydym yn edrych ymlaen at y sialens. Rydym yn disgwyl i’r tîm fod yn gorfforol yn y dacl ac yn edrych ymlaen at yr her yn y sgrym.

“Credu rydym wedi buddio o chwarae ar altitude o fewn y tair gêm gyntaf. Mae’r bois wedi teimlo’r newid yn eu ysgyfaint, ac byddyn nhw’n gryfach nawr ein bod nôl ar lefel y môr.

“Wrth i ni symud tuag at ddiwedd y daith, mae’n bleser i weld cymaint o chwaraewyr serennu yn eu perfformiadau. Fel hyfforddwyr rydym am i’r chwaraewyr i wneud ein swydd mor galed ag sy’n bosib o ran dewis a dyna beth rydym yn gweld.”

TÎM ‘A’ DE AFFRICA v Y LLEWOD

15. Anthony Watson (Bath Rugby, England); 14. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby, Wales),  13. Chris Harris (Gloucester Rugby, Scotland),  12. Bundee Aki (Connacht Rugby, Ireland),  11. Josh Adams (Cardiff Rugby, Wales), 10. Dan Biggar (Northampton Saints, Wales), 9. Conor Murray – captain (Munster Rugby, Ireland);  1. Wyn Jones (Scarlets, Wales),  2. Ken Owens (Scarlets, Wales),  3. Kyle Sinckler (Bristol Bears, England),  4. Maro Itoje (Saracens, England),  5. Iain Henderson (Ulster Rugby, Ireland),  6. Josh Navidi (Cardiff Rugby, Wales), 7. Tom Curry (Sale Sharks, England),  8. Taulupe Faletau (Bath Rugby, Wales).
Replacements: 16. Luke Cowan-Dickie (Exeter Chiefs, England),  17. Mako Vunipola (Saracens, England),  18. Zander Fagerson (Glasgow Warriors, Scotland),  19. Adam Beard (Ospreys, Wales),  20. Tadhg Beirne (Munster Rugby, Ireland), 21. Sam Simmonds (Exeter Chiefs, England),  22. Gareth Davies (Scarlets, Wales),  23. Elliot Daly (Saracens, England).