Mae capten y Scarlets Ken Owens wedi’i enwi yn 23 y Llewod am yr ail brawf i wynebu De Affrica yn Cape Town ar ddydd Sadwrn.
Mae Owens, a wnaeth ymdrech arbennig oddi’r fainc yn ystod y Prawf cyntaf, wedi’i enwi ar y fainc eto wrth i Warren Gatland ddangos tri newid i’r tîm o benwythnos diwethaf.
Gyda’i gyd chwaraewr Scarlets Wyn Jones allan gydag anaf i’w ysgwydd, mae Mako Vunipola yn camu i mewn i safle’r prop pen rhydd, Chris Harries sydd yn llenwi safle’r canolwr, wrth i Conor Murray ddod i mewn yn lle Ali Price fel mewnwr.
“Fel arfer, roedd hi’n benderfyniad anodd iawn,” dywedodd Gatland. “Er hyn, rydym yn credu ein bod wedi gwneud y penderfyniadau iawn ar gyfer y penwythnos.
“Bydd hi’n gystadleuaeth tynn arall. Bydd y Springboks yn brifo ac yn barod i daflu popeth i mewn i ddydd Sadwrn, ond rwy’n credu mae digon i ddod wrthom. Teimlaf bod lefel arall fe allwn gyrraedd yn ein perfformiad o’r Prawf diwethaf ac rwy’n disgwyl i ni wella.
“Dyma’r gêm fwyaf o’r daith ac mae rhaid i ni dderbyn y disgwyliadau sydd yn dod gyda hynny. Fel chwaraewyr a hyfforddwyr, dyma’r gemau rydych eisiau bod yn rhan ohono. Edrychwn ymlaen i wynebu’r Springboks eto ar ddydd Sadwrn gan obeithio selio buddugoliaeth y gyfres.
Gêm dydd Sadwrn yn erbyn pencampwyr y byd fydd yr ail Brawf o dri yn y gyfres Castle Lager Lions Series a fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Sky Sports.
DE AFFRICA v Y LLEWOD
Dydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2021; Stadiwm Cape Town, Cape Town; Cic gyntaf: 5yh (BST)
15. Stuart Hogg (Exeter Chiefs, Scotland); 14. Anthony Watson (Bath Rugby, England), 13. Chris Harris (Gloucester Rugby, Scotland), 12. Robbie Henshaw (Leinster Rugby, Ireland), 11. Duhan van der Merwe (Worcester Warriors, Scotland); 10. Dan Biggar (Northampton Saints, Wales), 9. Conor Murray (Munster Rugby, Ireland); 1. Mako Vunipola (Saracens, England), 2. Luke Cowan-Dickie (Exeter Chiefs, England), 3. Tadhg Furlong (Leinster Rugby, Ireland), 4. Maro Itoje (Saracens, England), 5. Alun Wyn Jones – captain (Ospreys, Wales), 6. Courtney Lawes (Northampton Saints, England), 7. Tom Curry (Sale Sharks, England), 8. Jack Conan (Leinster Rugby, Ireland) #839
Replacements: 16. Ken Owens (Scarlets, Wales), 17. Rory Sutherland (Worcester Warriors, Scotland), 18. Kyle Sinckler (Bristol Bears, England), 19. Tadhg Beirne (Munster Rugby, Ireland), 20. Taulupe Faletau (Bath Rugby, Wales), 21. Ali Price (Glasgow Warriors, Scotland), 22. Owen Farrell (Saracens, England), 23. Elliot Daly (Saracens, England).