Mae capten y Scarlets Ken Owens wedi sôn am ei falchder o wneud ei ddechreuad cyntaf mewn gêm Prawf i’r Llewod ar ddydd Sadwrn yn erbyn y Springboks.
Cafodd Owens ei gynnwys yn y tîm sy’n dangos chwe newid o’r ail Brawf yn Cape Town a fydd yn ymuno a’i gydchwaraewr Scarlets Wyn Jones yn y rheng flaen. Mae’r Liam Williams hefyd wedi derbyn cyfle fel cefnwr.
“Dyma fydd fy nechreuad cyntaf ac rwy’n falch iawn i fod yn chwarae yn erbyn pencampwyr y byd mewn gêm Prawf, dyma yw un o’r gemau mwyaf o fy ngyrfa,” dywedodd Owens.
“Mae dechrau mewn gêm yn golygu rôl ychydig yn wahanol ond mae’r sylfaen yr un peth. Bydd rhaid i ni ddechrau’r Prawf fel rydym am barhau trwy gydol yr 80 munud.
“Bydd rhaid i ni fod yn gywir, gan ddod a’r egni yn gynnar a gwneud yn siwr i gael y darn gosod mewn lle i roi y cyfleoedd gorau i beth rydym yn bwriadu gwneud.”
Ar chwarae nesaf at Jones, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Llewod, ychwanegodd Owens: “Teimlais balchder mawr i weld Wyn yn cael ei gynnwys ac wedyn tristwch mawr i glywed am yr anaf.
“Rwy’n falch iawn ei fod wedi llwyddo i wella a derbyn y crys. Mae wedi bod yn anhygoel i’r Scarlets ac i Gymru dros y blynyddoedd ac mae’n wych i weld Wyn yn cael y cyfle i chwarae i’r Llewod.
O ran y her o ailgudio’r perfformiad yn dilyn y colled o benwythnos diwethaf, dywedodd Owens ni fydd y Llewod yn cario unrhyw craethau: “Mae’r hyder yna ac mae angen i ni ymddiried i mewn i’r broses a beth rydym am gyflawni,”
“Rydym yn barod am y gêm ac mewn meddylfryd da. Rydym yn ymwybodol o’r her fydd yn dod yn erbyn De Affrica, bydd hi’n rownd derfynol gyffroes iawn rhwng y ddau ohonom.”