Kieran Hardy yn canlbwyntio ar adennill amser a gollwyd yn dilyn llawdriniaeth pendics

Kieran LewisNewyddion

Mae’r cynlluniau cyn-tymor wedi bod yn groes i ddisgwyliadau i Kieran Hardy, ond mae’r mewnwr yn fwy na phenderfynol o fod yn holliach erbyn ymgyrch Guinness PRO14 fis Medi.

Cafodd Hardy dymor 2018-19 rhagorol yn dilyn ei groeso adref wedi rhai blynyddoedd yn chwarae gyda’r tîm o Bencampwriaeth Lloegr, y Jersey Reds.

Enillodd wobr Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Crys 16 Supporters am chwaraewr mwyaf arloesol y tymor, sgoriodd gais y tymor gyda’r Scarlets a bu trafodaethau am ei botensial fel seren rhyngwladol ar ôl cyfres o arddangosfeydd trawiadol yn y crys rhif 9.

Fodd bynnag, rai dyddiau wedi dechrau’r paratoadau cyn-tymor ac wedi teimlo poen yn ystod sesiwn hyfforddi, cafodd ei ruthro i’r ysbyty i gael tynnu ei bendics.

Mae’r chwaraewr 23 oed o Bontyberem yn dechrau ymuno’n raddol â’r paratoadau ym Mharc y Scarlets gan edrych ymlaen at ymgyrch hynod addawol a chyffrous dan arweiniad y prif hyfforddwr newydd, Brad Mooar.

“Ces i gwpwl o ddiwrnodau o hyfforddi ac wedyn aeth fy mhendics yn dost felly ‘dw i ar ochr y cae am ychydig, gan ganolbwyntio ar bethau fesul wythnos. Gobeithio y byddaf yn ffit mewn cwpwl o wythnosau a nôI yn y sesiynau hyfforddi,” dywedodd.

Mae Hardy yn gobeithio gweld y golau gwyrdd i deithio i Jersey i herio ei gyn-glwb yng ngêm agoriadol cyn-tymor y Scarlets ar Fedi’r 7fed.

“Byddai’n dda i gael bod ar y trip hwnnw, dyna’r nod,” ychwanegodd.

“Bydd chwarae yn eu herbyn yn wahanol, ond mi fydd yn gêm dda a ‘dw i’n siwr y bydd y bechgyn yn mwynhau.

“Cefais ddwy flynedd dda iawn yn Jersey, dysgais lawer am fy rygbi, a chefais y cyfle bob wythnos i chwarae i safon heriol a ‘dw i’n well chwaraewr erbyn hyn.

“Roedd yn benderfyniad mawr imi; y peth gorau imi erioed ei wneud o edrych yn ôl. Roedd yn achos o naill ai eistedd a aros am fy nghyfle fan hyn neu mynd amdani a thalodd ar ei ganfed yn y diwedd.

“Mae’n braf i ddod nôl adref ac rwy’n canolbwyntio ar gwblhau fy swydd yma nawr.”

Gan adlewyrchu ar y tymor diwethaf, ychwanegodd Hardy: “Roeddem ni i gyd yn ymwybodol mai nad dyna oedd ein tymor gorau fel tîm ond eleni, rydym yn gwthio am bethau mawr.

“Yn bersonol, roeddwn yn falch o sut aeth y tymor, fy nod oedd chwarae cymaint ag y gallwn, mynegi fy hun a dangos i bawb cymaint yr oeddwn yn meddwl fy mod wedi gwella.”

Gyda Gareth Davies yn debygol o fod yn cyflawni dyletswyddau Cwpan Rygbi’r Byd fis Medi a Hydref, mae drws ar agor i un o fewnwyr y Scarlets ddechrau’r tymor.

Ychwanegodd Hardy: “Mae Jonny (Evans) nôl ac yn ffit ac mae Dane (Blacker) wedi dod o’r Gleision, ond mae’r gystadleuaeth honno ond yn ein gwneud yn well chwaraewyr.

“Mae’n dda i gael y chwaraewyr hyn yn ein hamgylchedd, mae’n gwthio’r safon i bawb. Y mwyaf o gystadleuaeth y wynebwch, yn y pen draw, byddwch yn dîm gwell ar y cae.

“Mae’n grŵp llai, ond mae’n teimlo fel grŵp agos – rydym angen iddo fod. Byddwn ni heb y chwaraewr rhyngwladol am yr ychydig fisoedd cyntaf a byddant oddi cartref eto yn y Chwe Gwlad. Mae gan y grŵp yma rôl fawr i chwarae yn ein tymor.”