Lee yn ymweld â Renishaw

Kieran LewisNewyddion

.

Aeth y prop pentynn Samson Lee i gartref y cwmni Renishaw yn gynharach yr wythnos hon, y cwmni sy’n ei noddi.

Mae’r cwmni peirianneg rhyngwladol wedi noddi Lee ers 2015 ac mae’r cwmni yn adeiladu perthnasau gyda sefydliadau ar draws De Cymru fel rhan o’u hymrwymiad i ddatblygiad gweithgareddau yn y safle ger Caerdydd.

Fel rhan o’u nawdd o’r Scarlets mae Renishaw hefyd yn cefnogi rygbi TAG diwrnod gêm y Scarlets sy’n rhoi cyfle i ysgolion a chlybiau ieuenctid i chwarae ym Mhentref y Cefnogwyr ac ar y cae ym Mharc y Scarlets.