Mae chwaraewr rheng ôl y Scarlets Tomas Lezana wedi’i enwi yng ngharfan yr Ariannin ar gyfer ei gêm Rugby Championship yn erbyn y Crysau Duon ar ddydd Sadwrn.
Mae Lezana, a wnaeth ymuno’r Scarlets o’r Western Force yn ystod yr haf, wedi’i enwi ar y fainc i’r Los Pumas wrth iddyn nhw edrych at gywiro’r camgymeriadau o benwythnos diwethaf wrth golli 39-0 yn erbyn Seland Newydd.
Dyma fydd 40fed cap y chwaraewr 27 oed.