Triawd y Scarlets Liam WIlliams, Ken Owens a Wyn Jones wedi’u enwi yng ngharfan y Llewod ar gyfer gêm Japan yn BT Murrayfield ar ddydd Sadwrn, (3yp) am Gwpan Vodafone 1888 y Llewod.
Mae Williams a Owens wedi’u enwi yn y XV i ddechrau, wrth i Jones wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Llewod oddi’r fainc.
Bydd 16,500 o gefnogwyr yn cael eu croesawu i stadiwm genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin ar gyfer y gêm cyntaf erioed rhwng y Llewod a’r Brave Blossoms.
Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Channel 4 gan gychwyn taith y Llewod i’r De Affrig, a fydd yn dangos y profion yn erbyn pencampwyr Cwpan Rygbi’r Byd, y Springboks.
“Rydym yn rhagweld gêm anodd yn erbyn Japan – ochr sydd yn hoffi chwarae ar dempo cyflym,” dywedodd prif hyfforddwr y Llewod Warren Gatland.
“Gwelsom trwy gydol Cwpan y Byd bod y dîm yn fygythiad wrth ymosod ar hyd y parc ac yn gryf gyda’u safle gosod.
“Rwy’n hapus gyda’r cynnydd rydym wedi gwneud yn ystod ymarferion yn ein camp yn Jersey mor belled, ond mae gennym ffordd hir i fynd. Gallwch weld bod y garfan yn dechrau deall ein strategaethau, ond fel arfer gyda taith y Llewod, mae’n cymryd amser i ddod yn gyfarwydd.
“Rydym mewn lle da ar hyn o bryd a gallaf weld bod llawer mwy i ddod gan y grwp yma.
“‘Bydd pawb yn y garfan yn cael dechrau cyn i’r profion ddechrau, fel y gall pob aelod o’r garfan codi llaw ar gyfer cael eu dewis o flaen y Prawf.
“Rydym wrth ein bodd i chwarae o flaen 16,000 o gefnogwyr yng Nghaeredin. Rwy’n siwr fydd y cefnogwyr yn rhoi hwb mawr cyn i ni adael ar ddydd Sul i Dde Affrica.”
Bydd y daith o wyth gêm yn cychwyn ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 3 pan fydd y Llewod yn chwarae’r Emirates Lions ym Mharc Emirates Airlines yn Johannesburg. Tair wythnos yn ddiweddarach, bydd Cape Town yn cynnal y prawf agoriadol o’r Gyfres 2021 Castle Lions Lager – y Prawf cyntaf yna ers 1997. Bydd y garfan wedyn yn dychwelyd i Gauteng i chwarae’r ail a’r trydydd Prawf yn Stadiwm FNB yn Johannesburg ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 31 ac Awst 8.
Mae’r Llewod wedi teithio De Affrica 13 o weithiau, gyda’r daith gyntaf yn 1891. Yn ystod yr amser hynny, mae’r Llewod wedi ennill pedwar gyfres, colli wyth ac yn gyfartal unwaith. Mae ei record ar y cyfan yn erbyn y Springbok yw chwarae 46, ennill 17, colli 23 ac yn gyfartal chwech o weithiau.
Y Llewod vs JAPAN – The Vodafone Lions 1888 Cup
15. Liam Williams (Scarlets, Wales) #833; 14. Josh Adams (Cardiff Rugby, Wales); 13. Robbie Henshaw (Leinster Rugby, Ireland) #824; 12. Bundee Aki (Connacht, Ireland), 11. Duhan van der Merwe (Edinburgh Rugby, Scotland); 10. Dan Biggar (Northampton Saints, Wales) #821 9. Conor Murray (Munster Rugby, Ireland) #790; 1. Rory Sutherland (Edinburgh Rugby, Scotland); 2. Ken Owens (Scarlets, Wales) #829; 3. Zander Fagerson (Glasgow Warriors, Scotland); 4. Iain Henderson (Ulster Rugby, Ireland) #808, 5. Alun Wyn Jones – Captain (Ospreys, Wales) #761, 6. Tadhg Beirne (Munster Rugby, Ireland), 7. Hamish Watson (Edinburgh Rugby, Scotland) , 8. Jack Conan (Leinster Rugby, Ireland)
Eilyddion: 16. Jamie George (Saracens, England) #819, 17. Wyn Jones (Scarlets, Wales), 18. Tadhg Furlong (Leinster Rugby, Ireland) #818, 19. Courtney Lawes (Northampton Saints, England) #826, 20. Taulupe Faletau (Bath Rugby, Wales) #779, 21. Ali Price (Glasgow Warriors, Scotland), 22. Owen Farrell (Saracens, England) #780, 23. Anthony Watson (Bath Rugby, England) #816.