Loteri’r Scarlets i lansio ym mis Rhagfyr

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Byddwch gyda’r cyntaf i ymuno â Loteri’r Scarlets am gyfle i ennill profiad bythgofiadwy!

Cofrestrwch nawr i gael y siawns o ennill £1000 a phrofiad rygbi gyda’r Scarlets.

JOIN NOW

Fe fydd Loteri’s Scarlets yn lansio ym mis Rhagfyr, ac efallai mai chi bydd yn ennill hyd at £5,000 wrth chwarae am gynlleied â £5 y mis.

Bydd y raffl yn digwydd bob pythefnos. Cyfatebwch pob rhif a chi bydd yn ennill y jacpot o £5,000!

Fe fydd 7 gwobr ariannol bob pythefnos ac un wobr anariannol, sy’n golygu 14 enillydd a mwy na £900 mewn gowbrau bob mis.

Yn ogystal â chael cyfle i ennill arian mawr, fe fydd eich aelodaeth o Loteri’r Scarlets hefyd yn cefnogi Sefydliad Cymunedol y Scarlets a’i gwaith yn y gymuned leol.

Mae’r Sefydliad yn cael ei yrru i ehangu ei gyrhaeddiad a’i effaith yn ein cymunedau, gan hybu iechyd a lles, cynhwysiant cymdeithasol, addysg ac mae’n darparu cymorth elusennol yn y rhanbarth.

O gyflwyno sesiynau rygbi i ysgolion, gwersylloedd chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig i glybiau cymdeithasol Sporting Memories wythnosol.

I ddarllen mwy am Loteri’s Scarlets cliciwch YMA

I ymuno nawr cliciwch YMA