Josh, Johnny a Kieran yn cael galwadau cyntaf wrth i 13 Scarlets yn cael eu henwi yng ngharfan Cymru

Rob LloydNewyddion

Dewiswyd tri ar ddeg o Scarlets yng ngharfan Cymru Wayne Pivac ar gyfer profion yr Hydref gyda galwadau cyntaf i Josh Macleod, Keiran Hardy a Johnny Williams.

Mae Josh, Kieran a Johnny ymhlith saith chwaraewr heb eu capio mewn tîm 38 dyn a fydd yn paratoi ar gyfer ymgyrch Cymru sydd i ddod.

Mae Rhys Patchell a Jonathan Davies, a wnaeth colli ymgyrch Guinness Six Nations yn gynharach eleni, yn ôl o anaf, tra bod groesawiad nol i’r prop Samson Lee.

Y Scarlets arall a enwir yw’r capten Ken Owens, Wyn Jones, Ryan Elias, Jake Ball, Gareth Davies, Leigh Halfpenny a Liam Williams.

Bydd Cymru yn cychwyn eu gemau hydref gyda gêm gyfeillgar ym Mharis yn erbyn Ffrainc, i baratoi ar gyfer eu diweddglo Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban aildrefnwyd ym Mharc y Scarlets.

Yna bydd carfan Pivac yn cymryd rhan yng Nghwpan gyntaf Cenhedloedd yr Hydref, gan gychwyn y twrnamaint ddydd Gwener Tachwedd 13eg yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, cyn gemau yn erbyn Georgia a Lloegr yn ogystal â rownd derfynol y twrnament ar Ragfyr 5ed.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd yn ôl at rygbi rhyngwladol a chael y garfan at ei gilydd eto,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

“Mae’r ymgyrch hon yn hynod bwysig gan edrych i’r dyfodol a’r tymor hir i’r RWC yn 2023.

“Rydyn ni’n cychwyn yr ymgyrch gyda gêm yn erbyn Ffrainc a fydd yn helpu i’n paratoi ar gyfer y gêm aildrefnwyd yn y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban, sy’n gêm bwysig ac yn bwysig ein bod ni’n cael perfformiad da ohoni.

“Yna rydyn ni’n mynd i mewn i Gwpan Cenhedloedd yr Hydref (ANC) sy’n dwrnament cyffrous ac yn gyfle gwych i ni. Mae’n gyfle i ni barhau i ddatblygu ein gêm, rhoi cyfleoedd i chwaraewyr a’u profi ar y lefel hon. Mae’n baratoad delfrydol ar gyfer y Chwe Gwlad 2021 holl bwysig a fydd yn dod o gwmpas yn gyflym ar ôl yr ANC.”

CARFAN CYMRU – HYDREF 2020

Blaenwyr (21): Rhys Carre (Gleision Caerdydd, 8 Capiau), Wyn Jones (Scarlets, 25 Capiau), Nicky Smith (Gweilch, 35 Capiau), Ken Owens (Scarlets, 77 Capiau), Ryan Elias (Scarlets, 13 Capiau), Sam Parry (Gweilch)*, Samson Lee (Scarlets, 41 Capiau), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd, 26 Capiau), Tomas Francis (Exeter Chiefs, 48 Capiau), Leon Brown (Dreigiau, 10 Capiau), Alun Wyn Jones (Gweilch, 138 Capiau), Will Rowlands (Wasps, 1 Cap), Jake Ball (Scarlets, 46 Capiau), Seb Davies (Gleision Caerdydd, 7 Capiau), Cory Hill (Gleision Caerdydd, 25 Capiau), Aaron Wainwright (Dreigiau, 21 Capiau), Ross Moriarty (Dreigiau, 45 Capiau), Taulupe Faletau (Bath, 76 Capiau), Josh Navidi (Gleision Caerdydd, 24 Capiau), Justin Tipuric (Gweilch, 76 Capiau), Josh Macleod (Scarlets)*. Cefnwyr (17): Rhys Webb (Gweilch, 33 Capiau), Gareth Davies (Scarlets, 53 Capiau), Kieran Hardy (Scarlets)*, Dan Biggar (Northampton, 83 Capiau), Rhys Patchell (Scarlets, 19 Capiau), Callum Sheedy (Bristol)*, Owen Watkin (Gweilch, 22 Capiau), Nick Tompkins (Dreigiau, 4 Capiau), Jonathan Davies (Scarlets, 81 Capiau), Johnny Williams (Scarlets)*, George North (Gweilch, 95 Capiau), Josh Adams (Gleision Caerdydd, 24 Capiau), Louis Rees-Zammit (Gloucester)*, Jonah Holmes (Dreigiau, 3 Capiau), Leigh Halfpenny (Scarlets, 89 Capiau), Ioan Lloyd (Bristol)*, Liam Williams (Scarlets, 63 Capiau).