Mae’r Scarlets yn falch i gyhoeddi penodiad Nigel Ashley-Jones fel Pennaeth Perfformiad Corfforol cyntaf y clwb.
Yn enedigol o Sydney, bydd Ashley-Jones yn goruchwylio’r adrannau meddygol, cryfder a chyflyru a’r adran gwyddorau ym Mharc y Scarlets, gan ddod â phrofiad arweinyddiaeth gwerth 26 mlynedd.
Yn gynt yn bennaeth perfformiad corfforol yng nghlwb Canberra Raiders yn Awstralia, mae gan Ashley-Jones brofiad hefyd gyda’r Super League trwy Wigan Warriors, St Helens a Warrington Wolves ac yn rygbi undeb trwy’r Gynghrair Saesneg gyda Sale Sharks a Saracens.
Mae hefyd wedi treulio amser fel ymgynghorydd i dîm cenedlaethol rygbi Rwsia ac mae ganddo brofiad ym mhêl-droed Saesneg, yn yr uwch gynghrair a’r Bencampwriaeth.
Bydd Ashley-Jones yn ymuno â’r garfan er mwyn paratoi am y tymor newydd ar ddiwedd y mis.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Dwi’n nabod Nigel yn dda o pan chwaraeais gyda Sale ac rydym yn lwcus iawn i gael unigolyn o’i ansawdd ef yn ymuno’r clwb.
“Bydd Nigel yn werthfawr iawn i’r amgylchedd yma, mae ganddo egni da a llawer mawr o brofiad ac arbenigedd ar hyd chwaraeon a rygbi undeb proffesiynol, rygbi’r gynghrair a phêl-droed.”
Dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi’r Scarlets Jon Daniels: “Mae’r rôl yma wedi’i greu er mwyn codi safon ar ac oddi ar y cae ac mae gan Nigel enw da o fewn y byd rheoli perfformiad ynghyd cryfder a chyflyru.
“Mae wedi bod yn rhan o ddiwylliant ac amgylchedd sydd wedi mwynhau llawer o fuddugoliaethau ar lefel uchaf chwaraeon proffesiynol a fydd yn dod a llawer o syniadau newydd gan herio’r chwaraewyr a staff.
“Edrychwn ymlaen at groesawu Nigel i Barc y Scarlets o fewn yr wythnosau nesaf.”
Dywedodd Ashley-Jones: “Mae gan y Scarlets hanes balch ac mae ei angerdd i lwyddo yn amlwg
“Rwy’n edrych ymlaen at arwain staff talentog y clwb o fewn yr adran ac yn edrych ymlaen at ddarparu amgylchedd sy’n sicrhau gofal a pharatoadau’r chwaraewyr.
“Mae’n anrhydedd i ymuno â theulu’r Scarlets.”