Mae teulu’r Scarlets yn drist iawn gan y newyddion bod ein cyn chwaraewr Matthew Watkins wedi marw yn 41 oed.
Chwaraeodd ‘MJ’ 150 o gemau mewn crys Scarlets rhwng 2002 a 2008, gan sgorio 42o geisiau, gan gynnwys un yn erbyn Ulster ym Mharc y Strade a helpodd yr ochr i gipio teitl Cynghrair Geltaidd 2003-04.
Fe’i cofir yn annwyl fel chwaraewr canol cae creadigol, medrus sidanaidd, a oedd yn ffigwr hynod boblogaidd ymhlith ein cefnogwyr a’r garfan chwarae a staff yn y Strade.
Yn 2013, cafodd Matthew ddiagnosis o fath prin o ganser y pelfis. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi helpu i godi miloedd o bunnoedd gyda digwyddiadau codi arian ar gyfer Canolfan Ganser Cymru, Velindre, lle roedd yn derbyn triniaeth.
Mae meddyliau pawb yma yn y Scarlets gyda gwraig Matthew, Stacey, ei feibion Siôr a Tal, teulu a ffrindiau ar yr adeg drist hon.