Mae menwyod Cymru yn chwarae yn erbyn tîm UDA ym Mharc y Scarlets yn gêm gynhesu o flaen eu ymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2022.
Bydd y gêm yn erbyn y XV UDA yn cymryd lle ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 12 (mwy o wybodaeth i ddilyn).
Cymru fydd yn cynnal gêm Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 2, Ffrainc ar Ddydd Gwener, Ebrill 22 a’r Eidal ar Ddydd Sadwrn Ebrill 30. Bydd y gemau i gyd yn cael eu chwarae ym Mharc yr Arfau.
Ac mae’r prif hyfforddwr Ioan Cunningham yn credu bydd y gêm yn erbyn y UDA yn chwarae rhan hanfodol ym mharatoadau’r Chwe Gwlad.
Dywedodd “Y UDA ydy’r bygythiad mwyaf cyson ym myd rygbi yn ddiweddar. Byddyn nhw’n rhoi tîm o chwaraewyr at ei gilydd sy’n chwarae rygbi ar y safon gorau ac yn rhan o’r Allianz Premier 15s, mae ganddyn nhw’r ffitrwydd, gallu athletaidd a pwer sydd yn ateb gofynion y bencampwriaeth.
“Rydym yn edrych ymlaen at chwarae y gêm yna ym Mharc y Scarlets. Mae’n stadiwm wych a gobeithio byddwn yn denu cefnogwyr newydd. Mae chwarae Iwerddon oddi cartref yn sialens i ni wrth gychwyn y Chwe Gwlad felly bydd y gêm gynhesu yma yn bwysig.”
Yn y llun mae Alisha Butchers, cyn-chwaraewr rheng ôl Scarlets.
Gemau Menywod Cymru yn Chwe Gwlad TikTok:
Cymru v yr Alban Dydd Sadwrn 2 Ebrill 4:45yp
Cymru v Ffrainc Dydd Gwener 22 Ebrill 8yh
Wales v yr Eidal Dydd Sadwrn Ebrill 12 canoldydd
Tocynnau £10 i oedolion £5 i blant o dan 16. Ewch i wru.wales/w6n now to watch Wales Women at home in the Tik Tok Women’s Six Nations