Yfory, bydd Menywod y Scarlets yn cystadlu yn nhwrnamaint y Super 12’s yn Llanymddyfri RFC. Gyda’r gic gyntaf am 10.00am, capten y garfan bydd y chwaraewraig ail reng, Awen Prysor, gyda chyn-gapten Cymru, Lowri Williams, yn is-gapten.
Bydd y Scarlets yn herio pump tim rhanbarthol; Gleision Caerdydd A a B, Y Dreigiau, Y Gweilch a RGC mewn diwrnod o ornestau 12 bob ochr cyn i’r tymor gychwyn.
Dywedodd Daryl Morgan, Prif Hyfforddwr Menywod y Scarlets, “Bydd y Super 12 yn rhoi her newydd inni, gan chwarae rygbi dwys dros gyfnod byr o amser.
“Mae’r garfan wedi hyfforddi’n dda iawn, yn enwedig y chwaraewyr ifanc yn y garfan.”
Gyda diffyg argaeledd Jodie Evans ac Alex Callender, ychwanegodd Daryl, “Rydym yn mynd â charfan gweddol ifanc i Lanymddyfri, dyma’r cyfle perffaith i’w cyflwyno i uwch-rygbi rhanbarthol gan weld sut y byddant yn ymateb i’r her.”
Carfan Menywod Super 12s y Scarlets:
Awen Prysor (Capt)
Gwenllian Jenkins
Sarah Lawrence
Jana Neumann
Kelly Gravell
Jennifer Blume
Brittany Lewis
Amy Morgan
Molly James
Nia Gwyther
Kirstin Field
Lowri Williams (VC)
Mabli Davies
Caitlin Lewis
Rhian Jenkins
Rosie Davies
Celyn Lazenby
Darcy Thomas
Rhian Swift
Marged Williams
Meghan Owens