Mae rygbi’n dychwelyd i Barc y Scarlets y prynhawn yma wrth i ni groesawu Gleision Caerdydd i Lanelli.
Y pum mis diwethaf fu’r mwyaf rhyfeddol yn hanes y clwb a bydd gennych chi, ein cefnogwyr eich straeon eich hun o’r anawsterau a’r trasiedïau rydych chi wedi gwynebu, eich teuluoedd a’ch ffrindiau.
Rydyn ni’n gobeithio y gall ein rygbi, a ffordd y Scarlets o chwarae, helpu i ddechrau’r siwrnai i fywyd arferol.
Er mwyn i ni i gyd fwynhau’r gêm ym Mharc y Scarlets, roeddem am egluro’r sefyllfa o ran contractau chwaraewyr unigol trwy gadarnhau bod pob gweithiwr y Scarlets, boed yn chwaraewyr, staff ystafell gefn neu staff nad ydynt yn rygbi, wedi ymuno â’n fframwaith lleihau cyflog wythnosau yn ôl.
Mae hwn yn gyfraniad mawr gan ein gweithwyr ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad pawb i lwyddiant a hyfywedd y clwb sy’n cynrychioli ein rhanbarth. Bydd y lleihad hyn yn aros yn eu lle am y 12 mis nesaf.
Bydd y clwb a’i staff nawr yn dechrau trafod y dyfodol y tu hwnt i’r 12 mis hwnnw. Mae’r broses hon eisoes wedi cychwyn gyda bron i 50 o drafodaethau ar y gweill. Mae’r clwb a’r staff yn deall yr angen i ddod o hyd i atebion tymor hwy sy’n deg i’r holl staff, yn adlewyrchu eu haberth ariannol ac yn sicrhau hyfywedd rygbi yn y Scarlets.
Mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb, ond mae rygbi yn ôl yn y Parc ac ar adegau roeddem yn meddwl tybed pryd y byddai hynny’n digwydd eto.
Lle bynnag yr ydych chi’n gwylio heddiw, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r hyn sy’n addo bod yn gêm ddiddorol rhwng dwy ochr o ansawdd.
Bydd y stadiwm yn wag, ond rydyn ni’n gwybod y bydd teulu cyfan y Scarlets yma mewn ysbryd.