Thomson wedi’i enwi yng ngharfan Cyfred yr Hydref i’r Alban

Menna IsaacNewyddion

Mae Blade Thomson, yn enedigol o Seland Newydd, wedi ei enwi yng ngharfan yr Alban ar gyfer cyfres yr hydref.

Mae Thomson, 27, yn un o dri chwaraewr d-gap sydd wedi eu henwi yng ngharfan 40-dyn Gregor Townsend ar gyfer y gyfres. Yn ymuno ag ef y mae’r clo Sam Skinner o Exeter Chiefs a’r canolwr Sam Johnson o Glasgow Warriors.

Mae Thomson yn gymwys i gynrychioli’r Alban trwy ei ddadcu a gafodd ei eni yn Wishaw.

Fe fydd yr Alban yn wynebu Cymru ar ddydd Sadwrn 3ydd Tachwedd yn Stadiwm Principality, gêm nad yw Thomson yn gymwys i chwarae gan ei fod tu allan i’r ffenest rhyngwladol, cyn dychwelyd adref i BT Murrayfield i wynebu Fiji, De Affrica a’r Ariannin ar y 10fed, 17eg a’r 24ain Tachwedd.

Mae deuddeg Scarlet wedi eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref hefyd.