Newidiadau i’r tîm ar gyfer y gêm ddarbi

Menna IsaacNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn dechrau cyfres gemau darbi’r wyl prynhawn Sadwrn gyda thaith i Stadiwm Liberty i wynebu’r cymdogion, y Gweilch.

Mae’r Prif Hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud newidiadau i’r tîm a wynebodd Ulster yng Nghwpan Pencampwyr Heineken wythnso diwethaf gan obeithio ail ffocysu’r grwp a chadw llygad craff ar y ras i’r gemau ail gyfle yn y Guinness PRO14.

Mae’r Scarlets yn eistedd yn yr ail safle yn Adran B ar hyn o bryd ac angen cadw’r pwysau ar yr arweinwyr Leinster a cheisio agor y gofod rhyngddynt a’r rheini sy’n dilyn.

Symud i safle’r cefnwr a wna Rhys Patchell ar gyfer gêm prynhawn Sadwrn gyda Hadleigh Parkes yn dechrau yn safle’r maswr. Mae Johnny McNicholl, a fydd yn chwarae ei hanner canfed gêm i’r rhanbarth, yn symud i’r asgell chwith gyda Tom Prydie yn symud i’r dde. Daw Kieron Fonotia yn ôl o anaf i bartneri Jonathan Davies yng nghanol cae. Cadw ei le fel mewnwr y mae Gareth Davies.

Yn y reng flaen fe ddaw Rob Evans yn ôl wedi anaf i’w bigwrn a welodd ef yn colli’r gêm Ewropeaidd yn erbyn Ulster penwythnos diwerhaf. Mae gweddill y reng flaen a’r ail reng yn parhau fel oedden nhw wythnos diwethaf.

Daw Ed Kennedy yn ôl o gyfergyd, mae James Davies ar gael ar ôl dioddef anaf i fys ei droed ac fe welir Will Boyde yn symud i safle’r wythwr gyda Uzair Cassiem y diweddaraf o’r reng ô li ddioddef anaf (ysgwydd).

Wrth edrych ymlaen i’r gêm ddarbi cyntaf dros yr wyl dywedodd Pivac; “Mae yna gystadleuthau un-ar-un ar draws y cae.

“Dyma’r gemau ry’n ni gyd yn edrych ymlaen atynt a mae’r hyfforddwyr yn mwynhau gymaint a’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Gweilch yn Stadiwm Liberty, Sadwrn 22ain Rhagfyr, cic gyntaf, kick-off 15:00;

15 Rhys Patchell, 14 Tom Prydie, 13 Jonathan Davies, 12 Kieron Fonotia, 11 Tom Prydie, 10 Hadleigh Parkes, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens (c), 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 David Bulbring, 6 Ed Kennedy, 7 James Davies, 8 Will Boyde

Eilyddion; 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Werner Kruger, 19 Lewis Rawlins, 20 Dan Davis, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Steff Evans