Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw bod cyfyngiadau Covid-19 yn cael ei godi, rydym methu aros i groesawu cefnogwyr nôl i Barc y Scarlets mis nesaf.
Mae’r tîm yn y Scarlets wedi sicrhau bod y protocolau angenrheidiol yn eu lle er mwyn caniatau dychweliad diogel y cefnogwyr i’r stadiwm.
Ar ddydd Llun byddwn yn cyhoeddi manylion o amgylch tocynnau a lletygarwch ar gyfer ein gêm gyfeillgar yn erbyn Nottingham Rugby ar ddydd Sadwrn, Medi 4ydd.
Mae’n anodd credu’r ymateb rydym wedi derbyn o ran tocynnau tymor ar gyfer tymor 2021-22 ac rydym yn disgwyl amserlen Pencampwriaeth Rygbi Unedig i gael ei gyhoeddi yn fuan.
Yn y cyfamser, cliciwch yma i weld ein holl becynnau tocyn tymor neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01554 292939!