Bydd Parc y Scarlets yn cynnal y nifer mwyaf o glybiau’r gymuned ar ddydd Sadwrn ar gyfer Darbi’r Gorllewin yn erbyn y Gweilch.
Bydd yna 53 tîm yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau trwy gydol y dydd, yn cychwyn gyda gŵyl rygbi i dimau o dan 7 oed hyd at 11 oed ar gae ymarfer y stadiwm o 10yb wrth i sêr y dyfodol dangos eu doniau cyn y gic gyntaf rhwng y Scarlets a’r Gweilch.
Gwelir timau yn cymryd rhan mewn gemau tag hanner amser, chwifio baneri a chymeradwyo’r bois wrth ochr y cae wrth iddyn nhw redeg mas.
Dywedodd Rheolwr Sefydliad Cymunedol y Scarlets Paul Fisher: “Mae’r ŵyl cyn y gêm rhwng y Scarlets a’r Gweilch ar ddydd Sadwrn yn mynd i fod yn gofiadwy iawn i bawb sydd yn cymryd rhan, dyma fydd y gweithgaredd mwyaf erioed i ni gynnal i dimau’r gymuned ym Mharc y Scarlets.
“Mi fydd hi’n ddathliad arbennig o glybiau rygbi ar draws y rhanbarth ac mae’n adlewyrchu’r cyffro sydd o amgylch y gemau mawr yma yn y Gorllewin.
“Mae’n wych i groesawu gymaint o chwaraewyr ifanc, eu hyfforddwyr a theuluoedd a ffrindiau i’r Parc am ddiwrnod rydym yn gobeithio bydd yn gofiadwy a phleserus i bawb.
“Mae’n bwysig i ni ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yng Nghymru ac i bawb teimlo croeso cynnes i mewn i’r gymuned yma yng Ngorllewin Cymru.”
