Noson gyda phrif hyfforddwr y Crysau Duon, Ian Foster a Brad Mooar ym Mharc y Scarlets

Ryan GriffithsNewyddion

Bydd prif hyfforddwr y Crysau Duon, Ian Foster, yn ymuno â Brad Mooar ym Mharc y Scarlets y mis hwn i gael mewnwelediad unigryw i fywyd ar frig rygbi proffesiynol.

Ddydd Iau, Mawrth 12fed, bydd Parc y Scarlets yn cynnal noson gyda rheolwr Seland Newydd yn ogystal â phrif hyfforddwr y Scarlets, a fydd yn cysylltu â thîm rheoli’r Crysau Duon yn yr haf.

Yn cael ei gynnal gan Rupert Moon, bydd sesiwn holi ac ateb gydag Ian a Brad yn cael eu cynnal yn Lolfa Quinnell yn ogystal ag ocsiwn byw a raffl gyda’r cyfle i ennill gwobrau gwych.

Bydd y noson hefyd yn gweld lansiad swyddogol Sefydliad Cymunedol y Scarlets – cangen elusennol newydd y clwb.

Cenhadaeth y Sefydliad yw cofleidio athroniaeth a gwerthoedd rygbi, gan sicrhau budd cymdeithasol i gymuned y Scarlets.

Dywedodd rheolwr Sefydliad Cymunedol y Scarlets, Caroline Newman: “Y nod yw darparu elusen i ranbarth y Scarlets a fydd yn hyrwyddo ein cymuned ac yn dilyn gweledigaeth pobl sy’n byw ac yn gweithio yma.

“Bydd y Sefydliad yn gweithredu fel un sydd yn codi arian gydag ymrwymiad i ffyniant y rhanbarth yn y dyfodol ac fel cyfrwng ar gyfer hyrwyddo balchder cymunedol ar y cyd. Helpu i wella bywydau pobl y rhanbarth yw ein prif flaenoriaeth.

“Mae’n fraint fawr i mi ymuno â’r Sefydliad ac edrychaf ymlaen at weithio’n galed i gefnogi’r elusen wrth adeiladu cyfleoedd a fydd yn cefnogi datblygiad y gwerthoedd hyn yng nghalon ein cymuned.”

Pris y tocynnau ar gyfer y noson, sy’n dechrau am 7.30yh, yw £25 y pen ac maent yn cynnwys pryd o fwyd (cyri neu gawl).

Ewch i www.parcyscarlets.com neu ffoniwch dîm lleoliad Parc y Scarlets ar 01554 783 900 i archebu’ch lle yn yr hyn sy’n addo bod yn noson wych gyda dau o’r hyfforddwyr uchaf eu parch yn y gêm.