Ymdrechodd y Scarlets yn galed i alluogi buddugoliaeth yn erbyn Caerfaddon mewn gêm Cwpan y Pencampwyr, gan roi ymdrech amddiffynnol anhygoel i ennill 23-19 yn y Rec.
Gyda’r cloc wedi troi’n goch, ceisiodd maswr Caerfaddon Ben Spencer un ymdrech arall tuag at y llinell, ond y clo ifanc Morgan Jones yn rhwystro’r ymdrech. Cafodd eiliadau olaf y gêm ei ddwysáu gan y dyfarnwr wrth iddo galw am y dyfarnwr teledu, ac wrth iddynt gyhoeddi dim cais, roedd yna rhyddhad mawr i’r ymwelwyr.
Trwy gydol y gêm, cynlleied oedd rhwng y ddau ochr gyda’r Scarlets yn sgori gais yn ystod y ddau hanner gan Gareth Davies ar ei 200fed ymddangosiad a Kieran Hardy.
Roedd gan y ddau ochr y cyfle i ennill, ond y gorllewin oedd gorau ar y noson a’r doli clwt yn dychwelyd i Lanelli gyda’r tîm.
Caerfaddon gychwynnodd y gêm y cryfaf a chafodd cic gosb gynnar trwy esgid maswr Lloegr Ben Spencer.
Ymatebodd y Scarlets yn syth. Leigh Halfpenny yn taflu i Steff Evans ar y tu fas, gyda’r asgellwr yn rasio trwy’r gwagle i ffeindio Davies ar ei du fewn.
Ochrgamodd yr amddiffynnwr diwethaf i groesi’r llinell am gais rhagorol.
Trosiad gan Halfpenny, ond yr ymdrech yn fyr.
Collodd y Scarlets dau flaenwr rhyngwladol Jake Ball a Samson Lee i anafiadau i’w pen, a Morgan Jones a Javan Sebastian daeth ymlaen fel eilyddion.
Ar 18 munud, roedd y 2,000 o gefnogwyr yn bloeddio wrth i’r tîm cartref sgori gais cyntaf y gêm gan yr asgellwr Ruaridh McConnochie.
Spencer yn ffaelu’r trosiad, ond yn ychwanegu dwy gic gosb arall, i sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen 14-10 erbyn yr egwyl.
Ac fe barhaodd yr ail hanner mewn modd dramatig hyd at y diwedd.
Llwyddodd Halfpenny i leihau’r bwlch i 14-13 rhyw chwe munud ar ôl i’r gêm ailddechrau, ond Caerfaddon manteisiodd ar y momentwm gan ymateb gyda chais gan y prop Will Stuart.
Daeth Josh Macleod ymlaen i Jac Morgan, a wnaeth fwynhau perfformiad da arall, a chreodd effaith yn syth, wrth i’r profiadol Jon Davies profi’n hanfodol oddi’r cae.
Gyda 16 munud ar ôl, roedd y Scarlets ar y blaen unwaith eto, Dan Jones gyda gwaith Rob Evans, a wnaeth creu dadlwythiad gwych i alluogi Hardy i sgori o dan y pyst a Halfpenny yn trosi.
Gydag ond un pwynt rhwng y ddau, roedd gan y ddau ochr gyfle.
Methodd Hardy i ffeindio Evans ar y tu fas, wrth i Gaerfaddon wynebu wal amddiffynnol gryf yn eu hymdrechion.
Rhoddodd y gic cosb gan Halfpenny rhyw fath o ryddhad i’r Scarlets wrth fynd i mewn i’r pum munud diwethaf, ond Caerfaddon yn dwyn y gic ac yn pweru tuag at linell yr ymwelwyr.
Gwaith amddiffynnol anhygoel gan Halfpenny, Jones a’u tîm i gadw Caerfaddon i ffwrdd, ac fe lwyddodd i gofnodi buddugoliaeth arall yn y Rec.