Siaradodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel i’r wasg heddi’ o flaen gêm URC yn erbyn yr Emirates Lions nos Wener ym Mharc y Scarlets.
Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.
Dwayne, sut wyt ti’n edrych nôl dros y golled yn erbyn Caeredin?
DP: “Mae’n ychydig yn rhwystredig i fod yn onest. Credais bod yna agweddau da i’n chwarae ac fe wnaethom sôn fel grwp am adael Caeredin i nôl mewn i’r gêm yn enwedig yn ystod yr ugain munud diwethaf o’r hanner cyntaf. Nad oeddwn mor adweithiol ag a gallen i fod, er enghraifft roedd cic gosb ar eu llinell nhw lle nad oedd y tîm wedi ymateb yn digon cyflym. Yn yr 20 munud yna fe lwyddodd Caeredin i sgori 19 pwynt ar ôl i ni rheoli rhanfwyaf o’r 20 munud cyntaf, ond fel wedais i roedd nifer o agweddau da hefyd.”
Derbyniodd y garfan sawl anaf, oes diweddariad?
DP: “I ni’n aros am sgan i Tom Phillips, ond dyw hi ddim yn edrych yn dda i fod yn onest. Dwi’n siomedig i Tom gan ei fod newydd dod nôl i mewn i’r garfan, wedi ymarfer yn dda ac wedi gwthio ei hun. Yn wreiddiol o Lanelli, mae Tom yn caru’r clwb ac yn chwaraewr deallus iawn. Fe gollon dau chwaraewr ail reng, nad oedd Sam (Lousi) yn ffit i chwarae cyn y gêm a wnaeth hynny rhoi pwysau arnom ni ar y funud olaf a wedyn Shings yn dod oddi ar y cae ar ôl hanner amser yn ychwyn am’i gefn. Mae’r ddau yn dilyn asesiadau meddygol ac yn cadw bant o’r ymarferion ar hyn o bryd.
Beth yw’r diweddaraf o ran y Llewod yn dychwelyd?
DP: “Does dim byd wedi newid. Maen nhw ond wedi bod mewn am rhyw ddeg diwrnod, mae’n bwysig i ni eu bod nhw’n cael eu gofalu ac mewn safle i berfformio. Mae’r Llewod wedi dychwelyd i ymarferion llawn ac yn gweithio ar eu ffitrwydd ayyb. Nad wy’n gweld nhw’n bell o gymryd rhan, falle rownd tri neu pedwar, ond nad yw nhw mewn golwg am yr wythnos hon.”
Rhaid bod hi’n bositif iawn i weld Scott a Jon nôl gyda’i gilydd?
DP: “Roedd hi’n bositif ond dyna beth oeddwn yn disgwyl. Mae’r ddau wedi ymarfer yn dda. Mae ein canolwyr i gyd wedi ymarfer yn dda iawn ac mae Johnny Williams yn dod nôl mewn i golwg nawr hefyd. Roedd hi’n dda i weld Scotty a Jon nôl gyda’i gilydd. Credu mai dyma 80 munud cyntaf Scott ers 11 neu 12 mis. Y ddau yn disgwyl yn ffit ac yn cadw i fyny gyda’r rhedeg. Bydd y ddau ond yn gwella gyda mwy o brofiad dros y tymor. Mae’r ddau yn bwysig iawn i ni; y ddau yn chwaraewyr arbennig ond oddi’r cae maent yn gwthio’r safon, mae’r ddau yn lleisiol iawn o ran y grwp ac yn dwli i chwarae i’r Scarlets.”
Wyt ti’n edrych ymlaen at fod gytre ac i chwarae yn erbyn y tîm De Affrig cynta’ yn y URC?
DP: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr. Rydym wedi astudio’r Lions trwy’r Currie Cup ac wedi dysgu llawer amdanyn nhw trwy gêm wythnos diwethaf yn erbyn Zebre. Roedd y tîm wedi rhoi argraff da yn yr hanner cyntaf a wedi cosbi Zebre gyda phob cyfle. Yn gyflym ac yn bwerus fel y disgwyl. Deallwn lefel y her o’n blaenau. Mae cynnwys y pedwar timau mawr o De Affrica yn y bencampwriaeth yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at yr her ar nos Wener.”