Siaradodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney â’r wasg cyn i’w dîm wynebu’r Gweilch ar ŵyl San Steffan.
Dyma rhai uchafbwyntiau o’r cynhadledd wasg rhithiol
A oes unrhyw chwaraewyr yn dychwelyd o anaf?
GD: “Mae Jake (Ball) yn ôl yn ymarfer ar ôl gwella o’i gyfergyd. Mae’n ddyn cryf iawn ac yn ddylanwadol iawn, rydym yn ffodus iawn i gael chwaraewyr sydd yn fodlon rhoi llawer o amser i helpu eraill, mae’n ddylanwad da iawn ar chwaraewyr ifanc fel Morgan Jones a Jac Price, maen nhw’n dysgu llawer o bethau wrth Jake. Roedd Jake wedi’i siomi nad oedd yn gallu chwarae yn erbyn Caerfaddon, felly mae’n dda i’w gael yn ôl.”
Beth yw’r gwahaniaeth nawr i chwarae’r gêm yma ym Mharc y Scarlets?
GD: “Rydym yn dwli ar chwarae’r Gweilch, pan dw i’n meddwl yn ôl ar lenwi’r stadiwm gyda 15,000, roedd yn adeg anhygoel. Y siom mwyaf eleni yw ddim cael ein cefnogwyr yma i wylio’r gêm. Dyma’r gemau maent yn edrych ymlaen at y mwyaf ac roedd awyrgylch anhygoel yma llynedd. Dw i heb brofi’r fath yna o gefnogaeth o’r blaen. Mae mynd i fod yn gêm dda a mawr obeithiaf fydd pawb yn gallu cael y cyfle i gefnogi rhywsut. Gyda’r cyfyngiadau sydd ar hyn o bryd yng Nghymru, mae angen rhywbeth i godi ysbryd ac i dynnu sylw o realiti, ac fe all y gemau yma wneud hynny.”
Hyd yn oed heb cefnogwyr, rwy’n dychymgu ni fydd cymhelliant yn broblem?
GD: “Ni fydd angen llawer o gymhelliant gan y staff, fydd y bois yn gallu dod â’r egni yna eu hunain. Maen nhw’n gwybod beth mae fel i chwarae yn erbyn bois maen nhw’n eu nabod ac mae’r bois yn hoffi’r sialens. Bydd ganddyn nhw’r cymhelliant a’r gallu i wthio’u hunain.”
Dywedodd hyfforddwr y Gweilch Toby Booth mae’r Scarlets sydd yn gwisgo’r goron fel tîm gorau Cymru. Wyt ti’n cytuno?
GD: “Y Gweilch ydy’r tîm i ddilyn ar hyn o bryd. Mae Booth wedi datblygu’r tîm yn dda iawn. Er i’r Gweilch chwarae eu gêm gartref yma, bydd hi dal yn gêm gartref iddyn nhw a byddwn yn eu trin hi’r un peth. Bydd gystadleuaeth dda yma.”
Beth wyt ti’n i feddwl am y gystadleuthau unigol?
GD “Mae Wayne (Pivac) a’i hyfforddwyr yn edrych ar y gemau yma fel arwyddion. I’r cefnogwyr, maent yn cael gweld y chwaraewyr gorau yng Nghymru yn chwarae yn erbyn y chwaraewyr gorau yng Nghymru, a fydd hynny yn denu diddordeb mawr. Mae’r chwaraewyr yn nabod ei gilydd yn dda iawn ac mae tueddiad o chwarae yn galetach wrth chwarae yn erbyn ffrindiau. Bydd nifer o gystadlaethau unigol ar y cae, a dyna beth sy’n creu diddordeb.”