Siaradodd Glenn Delaney â’r wasg o flaen y gêm Guinness PRO14 yn erbyn Caeredin ar brynhawn dydd Sadwrn. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.
Glenn, mae rhaid dy fod yn falch iawn gyda’r perfformiad a’r canlyniad yn erbyn Benetton?
GD: “Dywedais ar ôl y gêm, mae’r bois wedi gweithio’n galed o flaen llaw ac yn hynod o falch o’u gweld yn cael eu gwobrwyo am hynny. Sgoriwyd chwe chais ac roedd nifer o ymdrechion da ar y cyfan. Roedd y cais diwethaf yn rhywbeth rydym yn ceisio adeiladu, dyna’r fath o rygbi rydym am gadw chwarae. Pan mae’r cynllun yn gweithio, mae’r garfan yn hapus. Ar ôl gorffen yn fuddugol, rydym yn tueddu i edrych ar sut allwn adeiladu ar ein perfformiad yn hytrach na cheisio cywiro camgymeriadau. Rydym o hyd yn ceisio i fod yn optimistaidd tuag at symud ymlaen. Mae buddugoliaethau yn helpu clirio rhoi o’r pethau sy’n chwarae ar feddyliau’r bois, mae’r ffocws nawr ar beth rydym am wneud nesaf ac rydym wedi cael wythnos dda iawn.”
Beth yw’r diweddaraf ar Sam Costelow, Rhys Patchell a Aaron Shingler?
GD: “Bydd Sam yn colli’r wythnos yma, mae ganddo anaf i’w bigwrn a fydd yn cymryd rhai wythnosau i wella sydd yn siom gan ei fod wedi chwarae’n dda iawn yn ddiweddar.
“Gyda Patch, rydym am gymryd cam wrth gam. Mae gan Rhys meddylfryd da a ddim rhy bell i ffwrdd o ddychwelyd. Mae’r wythnos hon wedi bod yn gam fawr iddo gyda llawer o gyswllt yn ystod ymarfer, ac wedi ymateb yn dda.
“Bydd Aaron yn cymryd rhan mewn ymarferion ffitrwydd ar ddydd Sadwrn, ac rydym yn gobeithio i anelu at gêm Munster (Mawrth 12) i Shings. Maent yn cyrraedd ei dargedau, ac roedd yn cynhesu lan gyda’r tîm wythnos ddiwethaf. Bydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr iddo, a dyna beth sydd angen am ei ddatblygiad.”
Beth am y sialens o wynebu Caeredin?
GD: “Maent yn dîm cryf, corfforol; mae eu gêm wedi’i seilio ar eu safle gosod a chicio tactegol ac yn gallu chwarae’r agweddau hynny’n dda. Cawsom gêm 6-3 wlyb iawn yma yn gynharach yn y flwyddyn, gyda cherdyn coch a wnaeth gweithio yn ein herbyn, ond fe ddaethon nhw i mewn i’r gêm ar gefn rhyw chwe cholled a llwyddo i droi ni drosodd. Dw i ddim yn credu eu bod nhw’n ofni chwarae ni, ac mae rhaid i ni dderbyn hynny a newid eu meddyliau ar y cae. Gan edrych ar ein pool, mae’r gêm yma yn bwysig iawn (am safle yng Nghwpan y Pencampwyr). Mae rhaid i ni gymryd cam ymlaen ar y penwythnos yn erbyn tîm sydd yn barod i chwarae.
Beth wyt ti’n i feddwl am y newyddion am y broses agored o dynnu enwau am yr 16 olaf?
GD: “Dw i wrth fy modd ein bod wedi ffeindio ffordd trwy a gawn weld beth sy’n digwydd. Efallai cawn chwarae gartref a pe bai nhw ddim yn tynnu enwau efallai bydd hynny ddim yn bosib a byddwn wedi chwarae bant yn erbyn La Rochelle, a gall hynny dal i ddigwydd wrth gwrs. Y realiti yw rydym yn yr het ac os cawn chwarae adref bydd hynny’n wych. Yn y gystadleuaeth Ewropeaidd yw lle mae’r cyffro. Unwaith mae’r PRO14 ar ben, fydd hi’n gyfnod cyffroes iawn.”