Bydd y canolwr Osian Knott yn ein gadael ar ddiwedd y tymor.
Daeth y chwaraewr 21 oed o Gaerfyrddin trwy’r system Academi ac fe aeth ymlaen i dderbyn ei gap cyntaf i Gymru yn ystod y Chwe Gwlad d20 llynedd.
Mae wedi ymddangos sawl tro i’r ‘Scarlets A’ yn y Cwpan Celtaidd ac fe wnaeth un ymddangosiad i’r garfan hŷn yn ystod y gêm ddatblygol yn erbyn y Gweilch ym mis Medi.
Dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi Jon Daniels “Mae Osian yn un o sawl chwaraewr sydd wedi dod trwy’r system Academi ac sydd wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru d20.
“Mae ganddo lawer o gystadleuaeth ymysg y cefnwyr ac yn anffodus, nad yw Osian wedi cael llawer o gyfleoedd i’r Scarlets yn dilyn ei ddychweliad o anaf i’w ben-glin. Rydym yn dymuno’n dda iddo ar y bennod nesaf o’i yrfa broffesiynol.”
Bydd Osian yn ymuno â’r Gweilch am yr ymgyrch 2021-22.