Daw’r chwaraewyr rhyngwladol Ken Owens, Samson Lee, Hadleigh Parkes a James Davies yn ôl i’r garfan ar gyfer gêm Cwpan Pencampwyr Heineken yn erbyn Ulster nos Wener ym Mharc y Scarlets.
Mae’r blaenasgellwr James Davies yn dychwelyd i’r cae ar ôl iddo wella o anaf i’w benglin, a ddioddefodd yn erbyn Benetteron ym mis Medi. Mae Samson Lee wedi gwella o anaf i’w goes.
Fe fydd Lewis Rawlins yn gwneud ei ganfed ymddangosiad wrth iddo’i enwi gyda David Bulrbing yn yr ail reng.
Ar ôl colli’r ddwy rownd agoriadol yn y gystadleuaeth fe fydd yn rhaid i’r Scarlets sicrhau buddugoliaeth dros Ulster nos Wener i gadw’r ymgyrch Ewropeaidd yn fyw.
Wynebodd y rhanbarth yr un sefyllfa tymor diwethaf ac fe lwyddodd y tîm nid yn unig i sicrhau buddugoliaeth yn y trydydd rownd ond mynd ymlaen i’r rownd gyn derfynol, canlyniad gorau’r rhanbarth yn y gystadleuaeth ers degawd a mwy.
Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Nid wyf yn credu bod ein gêm diwethaf yn eu herbyn yn cyfrif. Ry’n ni wedi bod yn hallt ar ein hunan (ar ôl Glasgow). Mae’n mynd i ddod lawr i bwy fydd yn ymateb i’r pwysau orau a phwy bydd yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i sgori.
“Mae’n rygbi ail gyfle lle ry’n ni’n y cwestiwn ac un canlyniad yn unig fydd y nein cadw ni’n fyw yn y gystadleuaeth. Mae hynny’n adeiladu pwysau yn y garfan ac mae’n rhaid i ni ymateb i hynny ar y noson.
“Ry’n ni wedi bod yn y sefyllfa yma o’r blaen. Mae hynny yng nghefn ein meddyliau ac mae’n rhoi ychydig o hyder i ni ein bod wedi dod trwy hyn o’r blaen ond ry’n ni hefyd yn grwp gwahanol eleni.”
Tîm y Scarlets i wynebu Ulster ym Mharc y Scarlets nos Wener 7fed Rhagfyr, cic gyntaf 19:45;
.
15 Johnny McNicholl, 14 Tom Prydie, 13 Jonathan Davies, 12 Kieron Fonotia, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Lewis Rawlins, 5 David Bulbring, 6 Will Boyde, 7 James Davies, 8 Uzair Cassiem
Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Werner Kruger, 19 Steve Cummins, 20 Dan Davis, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Hadleigh Parkes
Mae tocynnau tymor yn ddilys ar gyfer gêm nos Wener ac mae tocynnau ar gyfer y gêm ar werth o tickets.scarlets.wales