Bydd Parc y Scarlets yn cynnal gêm gyfeillgar pêl-droed mis nesaf rhwng merched Cymru a’r Alban o flaen ei ymgyrch Cwpan y Byd FIFA 2023.
Dyma fydd y drydedd gêm ryngwladol ym Mharc y Scarlets i dîm merched Cymru sydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth, Mehefin 15.
Dyma fydd cyfle olaf i reolwr Gemma Grainger i weld y chwaraewyr cyn i ymgyrch Cwpan y Byd i ddechrau ym mis Medi. Yn ymuno Cymru yn Grwp 1 mae Ffrainc, Slofenia, Groeg, Kazakhstan ac Estonia.
Bydd amseroedd cychwyn yn cael ei gadarnhau yn agosach at yr amser. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni fydd cefnogwyr yn bresennol am y gêm.
Cynhaliwyd gemau cenedlaethol rygbi Cymru yn ystod gemau’r Hydref wrth i Stadiwm y Principality gael ei ddefnyddio fel ysbyty NHS.