Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud pedwar newid i’r tîm a sicrhaodd fuddugoliaeth dros Benetton Rugby ym Mharc y Scarlets penwythnos diwethaf.
Fe fydd y Scarlets yn teithio i’r Eidal i wynebu Benetton yn yr ail gêm yn y cymal cefn-wrth-gefn gan obeithio sicrhau ail fuddugoliaeth yn eu herbyn i gadw’r ymgyrch Ewropeaidd yn fyw.
Croesodd y Scarlets am bump cais yn erbyn Benetton ym Mharc y Scarlets penwythnos diwethaf er gwaethaf ymdrech arwrol yr Eidalwyr.
Yn dychwelyd i’r tîm cychwynol y mae Scott Williams, Dan Jones, Rob Evans a Will Boyde. Mae’r maswr Rhys Patchell yn absennol yn dilyn cyfergyd.
Wrth adlewyrchu ar fuddugoliaeth wythnos diwethaf dywedodd Pivac; “Roedd yn ddechrau perffaith. Roedden ni ar y blaen o 14 pwynt id dim ar ôl pum munud, does neb yn gallu cwyno am hynny! Yn anffodus fe wnaethon ni methu a chanolbwyntio ar ein gêm amddiffynol. Fe ddaeth pethau mor hawdd ar y dechrau gyda’r bêl y nein dwylo fel wnaethon ni ddioddef mewn ardaloedd eraill o’r gêm.
“Fe aeth cyfnodau hir lle’r oedden ni heb y bêl gan adael iddyn nhw ddod yn ôl i mewn i’r gêm. Roedden ni’n bles iawn gyda’r ffordd y wnaethon ni orffen y gêm.”
Wrth edrych ymlaen i’r gêm prynhawn Sadwrn aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Ry’n ni wedi cael cyfle i asesu’n gilydd, ry’n ni’n edrych ymlaen i’r her o’u chwarae ar eu tir eu hunain ac yn disgwyl her anoddach fyth. Fe fyddwn ni’n ffocysu ar sicrhau bod ein gêm amddiffynol llawer yn well.
“Mae buddugoliaeth yn hanfodol, os allwn ni groesi am bedair cais a mwy fe fyddai hynny’n fonws. Wedi dweud hynny ry’n ni’n disgwyl gêm anodd; byddwn ni’n hapus i gymryd buddugoliaeth o unrhyw fath.
“Ar hyn o bryd ry’n ni’n dal mewn reolaeth o’n dyfodol yn y gystadleuaeth. Mae tair gêm yn weddi ac os byddwn ni’n ddigon da i ennill y gemau hynny mae pob cyfle gyda n ii symud ymlaen i’r rownd nesaf.”
Tîm y Scarlets i wynebu Benetton Rugby ar Stadio Comunale di Monigo ar ddydd Sadwrn 16eg Rhagfyr, cic gyntaf 2YP;
15 Leigh Halfpenny, 14 Johnny Mcnicholl, 13 Paul Asquith, 12 Scott Williams, 11 Steff Evans, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Werner Kruger, 4 Steven Cummins, 5 David Bulbring, 6 Tadhg Beirne, 7 James Davies, 8 Will Boyde
Eilyddion; Ryan Elias, Wyn Jones, Simon Gardiner, John Barclay, Josh Macleod, Aled Davies, Hadleigh Parkes, Steff Hughes