Bydd y Scarlets yn darparu pedwar Scarlet ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica haf yma.
Capten Ken Owens, prop pen tynn Wyn Jones, mewnwr Gareth Davies a’r cefnwr Liam Williams gafodd eu henwi yng ngharfan 37 dyn Warren Gatland.
Mae dosbarth 2021 yn dilyn rhai enwogion o’r gêm sydd wedi cynrychioli’r Scarlets a’r Llewod yn eu hamser.
Mae hynny’n cynnwys Delme Thomas, aeth ar daith 1966, 1968 a 1971, arlywydd y clwb ac eicon y Llewod Phil Bennett, oedd yn aelod o’r ‘invincibles’ a wnaeth teithio De Affrica yn 1974 a wnaeth capteinio’r twristiaid i Seland Newydd yn 1977; yr arwrol Ray Gravell, Llew prawf yn erbyn y Boks yn 1980 ac yn fwy diweddar Ieuan Evans, Dafydd James, Scott Quinnell, Dwayne Peel, Stephen Jones, Simon Easterby, Matthew Rees a George North.
Ar y daith i Dde Affrica yn 1974 roedd hefyd – Phil Bennet, JJ Williams, Derek Quinnell a Roy Bergiers.
I gyd, mae 29 Scarlet wedi cynrychioli’r Llewod, gan ddyddio nôl i Ivor Jones, a chwaraeodd pum prawf gan wneud 20 ymddangosiad ar y daith pum mis o Seland Newydd ac Awstralia yn 1930.
RH Williams sydd wedi chwarae yn y mwyaf o brofion Llewod – 10 yn 1955 a 1959 – Delme Thomas gyda’r mwyaf o ymddangosiadau mewn crys Llewod, gan chwarae 44 o weithiau ar hyd tair taith, wrth i Phil Bennett gludo 228 o bwyntiau i’w enw.
Chwaraeodd saith chwaraewr, WH Clement (1938), Alun Thomas (1955), Terry Price (1966), Roy Bergiers (1974), Tom David (1974), Peter Morgan (1980) a Robin McBryde (2001), ar y daith ond heb eu capio mewn prawf, wrth i Gareth Davies cael ei alw i mewn fel rhan o garfan waradwyddus Warren Gatland ‘Geography Six’ pedair blynedd yn ôl, ond ni chafodd ei gyfle ar y cae.
Rhestr Llewod y Scarlets
Ivor Jones (1930)
Elvet Jones (1938)
WH Clement (1938)
Lewis Jones (1950)
RH Williams (1955 & 1959)
Alun Thomas (1955)
Terry Davies (1959)
D Ken Jones (1962)
Delme Thomas (1966, 1968 & 1971)
Terry Price (1966)
Derek Quinnell (1971, 1977 & 1980)
Phil Bennett (1974 & 1977)
JJ Williams (1974 & 1977)
Roy Bergiers (1974)
Tom David (1974)
Ray Gravell (1980)
Peter Morgan (1980)
Ieuan Evans (1989, 1993 & 1997)
*Scott Quinnell (2001)
Dafydd James (2001)
Robin McBryde (2001)
Dwayne Peel (2005)
Simon Easterby (2005)
*Stephen Jones (2009)
Matthew Rees (2009)
Jonathan Davies (2013 & 2017)
*George North (2013)
Ken Owens (2017 & 2021)
Liam Williams (2017 & 2021)
Wyn Jones (2021)
Gareth Davies (2021)
*Cafodd Scott Quinnell ei ddewis ar gyfer taith 1997 wrth chwarae i Richmond, Stephen Jones yn 2005 wrth chwarae i Clermont Auvergne a George North wrth chwarae i Northampton Saints. Cafodd Gareth ei alw i fyny yn 2017 ond heb ei ddefnyddio fel eilydd.
Gan ddiolch Les Williams, hanesydd y Scarlets am yr ystadegau