Mae pedwar Scarlet wedi’u henwi yng ngharfan D20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi’r Byd yn Ne Affrica, sy’n cychwyn mis yma.
Y mewnwyr Archie Hughes a Harri Williams sy’n ymuno â’r prop Josh Morse a’r bachwr Lewis Morgan yn y garfan o 30 chwaraewr wedi’u dewis gan y prif hyfforddwr Mark Jones, y cyn-asgellwr i Gymru a’r Scarlets.
Mae’r twrnamaint, sydd yn cael ei chynnal yn Cape Town, yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019, ac yn rhedeg o’r 24ain o Fehefin i’r 14eg o Orffennaf, ac yn cynnwys y 12 frig tîm yn rygbi D20 y byd. Yn chwarae dros pum diwrnod, mae Cymru yn Pool A lle fyddant yn chwarae yn erbyn Seland Newydd, Japan a Ffrainc.
“Mae’n gymysg o ran cynnwys ienuenctid a phrofiad,” dywedodd Jones. “Mae sawl chwaraewr cyffroes wedi’u cynnwys, yn enwedig ymysg y tri ôl a’r rheng ôl. Mae hefyd llawer o botensial ymysg y pum blaenwr wrth symud ymlaen.”
Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn erbyn Seland Newydd sydd wedi ennill y tlws pump o weithiau, ond mae Jones yn hyderus yn gallu ei dîm i fod yn gystadleuol.
“Yn hanesyddol maen nhw wedi bod yn gryf yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd. Soniodd rhywun rydym wedi ennill yn erbyn Seland Newydd dwywaith allan o’r dair gêm diwethaf yn eu herbyn nhw.
“Nad yw hi’n gêm rydym yn ei ofni – mae hyn yn gyfle, ac rydym yn barchus iawn o rygbi Seland Newydd yn enwedig ar lefel D20. Mae eu system ysgol yn ardderchog, dw i wedi profi hynny. Pan yn chwarae yn erbyn tîm Seland Newydd mae’n gyfle i ni weld ble ydyn ni – ein potensial fel unigolion ac fel tîm.
“Mae’r Ffreincwyr hefyd yn gryf yn y gystadleuaeth Chwe Gwlad. Roedd sawl buddugoliaeth da yn eu henw. Mae Japan yn gwella’u safon bob tro ac mi fyddan nhw yn wrthwynebwyr anodd hefyd.”
Ychwanegodd Jones: “Rydym eisiau gwella o’r lefel perfformiad yn y Chwe Gwlad. Os welwn ni gwelliant ar yr ardaloedd rydym wedi ffocysu, gobeithio bydd hynny’n rhoi’r cyfle i ni i wella’r canlyniadau. Does dim un ohonom yn mynd allan i chwarae i beidio ennill.”
BLAENWYR: Josh Morse (Scarlets), Dylan Kelleher-Griffiths (Dragons RFC), Lewis Lloyd (Ospreys), Sam Scarfe (Dragons RFC), Lewis Morgan (Scarlets), Louis Fletcher (Ospreys), Ellis Fackrell (Ospreys), *Kian Hire (Ospreys), Liam Edwards (Ospreys), *Evan Hill (Ospreys). Mackenzie Martin (Cardiff Rugby), Jonny Green (Harlequins), Ryan Woodman (Dragons RFC), Morgan Morse (Ospreys), Lucas De la Rua (Cardiff Rugby), *Seb Driscoll (Harlequins), Gwilym Evans (Cardiff Rugby)
OLWYR: Archie Hughes (Scarlets), Harri Williams (Scarlets), Che Hope (Dragons RFC), Dan Edwards (Ospreys), *Harri Wilde (Cardiff Rugby), Bryn Bradley (Harlequins), Joe Westwood (Dragons RFC), Tom Florence (Ospreys), Louie Hennessey (Bath Rugby), Harri Houston (Ospreys), *Huw Anderson (Dragons RFC), Llien Morgan (Ospreys), Cameron Winnett (Cardiff Rugby)
*Uncapped at U20