Mae’r Scarlets yn croesawu yn ôl chwaraewyr rhyngwladol Johnny McNicholl, Wyn Jones, Ryan Elias a Jake Ball i’w XV i ddechrau yn erbyn Gleision Caerdydd ar nos Wener mewn gêm sydd wedi’i aildrefnu ym Mharc y Scarlets (20:00; S4C, Premier Sports).
Gwelir chwe newid i’r tîm sydd i ddechrau, wrth i’r capten Ken Owens paratoi am ei ymddangosiad cyntaf ers Hydref. Mae bachwr y Llewod wedi’i enwi ymysg yr eilyddion ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd.
Tu ôl i’r sgrym, mae McNicholl yn cymryd lle Liam Williams sydd wedi ei wahardd a dyma’r unig newid o’r dim a wnaeth wynebu’r Gleision pythefnos yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Yn y rheng flaen mae Jones yn ymuno a Elias a Javan Sebastian, sydd yn cymryd lle Pieter Scholtz sydd wedi’i anafu.
Mae Ball wedi gwella o’i anaf a gafwyd ar Ddydd Calan yn erbyn y Dreigiau ac yn ailymuno Sam Lousi yn yr ail reng.
Yr wythnos hon, cafodd Josh Macleod ei enwi fel yr unig chwaraewr heb gap yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, ond fydd yn colli mas ar chwarae nos Wener oherwydd anaf i’w bigwrn ac mae Ed Kennedy yn cymryd ei le ac yn ymuno Blade Thomson a Sione Kalamafoni yn y rheng ôl.
Ar y fainc, mae Owens wedi gwella o’r anaf i’w ysgwydd a gafwyd yn erbyn Glasgow. Mae Phil Price, Werner Kruger, Tevita Ratuva a Uzair Cassiem ar y fainc i’r blaenwyr, a Kieran Hardy, Angus O’Brien a Steff Hughes sydd yn cwblhau’r eilyddion.
Scarlets v Gleision Caerdydd (Dydd Gwener, Ionawr 22 (20:00, S4C, Premier Sports)
15 Leigh Halfpenny; 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Johnny Williams, 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies; 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Jake Ball, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Ed Kennedy, 8 Sione Kalamafoni.
Reps: 16 Ken Owens, 17 Phil Price, 18 Werner Kruger, 19 Tevita Ratuva, 20 Uzair Cassiem, 21 Kieran Hardy, 22 Angus O’Brien, 23 Steff Hughes.
Unavailable because of injury
Josh Macleod (ankle), Dan Davis (ankle), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Dylan Evans (shoulder), Samson Lee (concussion), Jac Morgan (knee), Jac Price (ankle), Tom Rogers (knee), Pieter Scholtz (hamstring), Rob Evans (concussion), James Davies (concussion), Aaron Shingler, Rhys Patchell.