Peel yn benderfynol ar adeiladu o’r bloc agoriadol

Rob LloydNewyddion

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel bod y Scarlets yn benderfynol ar adeiladu o’r llwyddiant yn y bloc agoriadol y gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Fe wnaeth y fuddugoliaeth nos Wener yn erbyn Zebre Parma codi’r tîm Gorllewinol i’r chweched safle yn nhabl y bencampwriaeth ar ôl chwe gêm.

Nawr mae yna seibiant o bedair wythnos wrth i gemau rhyngwladol yr hydref cychwyn, ond dywedodd Peel bydd y chwaraewyr yn parhau i weithio’n galed i wella o flaen ein gêm oddi cartref yn erbyn Glasgow Warriors ar Dachwedd 29ain.

“Mae angen i ni wella wrth i ni wynebu gemau mawr ar ôl yr egwyl yma. Bydd y bloc nesaf yn bwysig gyda gemau Ewrop yn dod lan hefyd. Fe wnewn ni gweithio ar ein gêm a paratoi i fynd eto yn erbyn Glasgow,” dywedodd Peel.

“I ni wedi tyfu yn y gêm, yn enwedig ar ôl ennill yn erbyn y Teirw ar ôl methu yn erbyn Connacht.

“Gyda’r gemau nesaf yn dod rownd yn gyflym bob wythnos a gorfod paratoi am yr un nesaf yn gyflym, nad oes llawer o amser i ymarfer ar y cae. Mae gyda ni wythnos bant a wedyn cyfle i weithio ar agweddau sydd angen gwella. Rydym hegyd yn gobeithio i gael chwaraewyr fel Shaun Evans a Vaea Fifita nôl, yn ogystal â Joe Roberts nôl yn ymarfer erbyn diwedd yr egwyl yma. Bydd hi’n wych i gael y bois yna nôl.

Wrth sôn am y fuddugoliaeth yn erbyn Zebre, ychwanegodd Peel: “Roedd y bois yn teimlo’n rhwystredig ar hanner amser. Gyda gymaint o wallau a thorri llinell pump o weithiau heb orffen y weithred, roedd rhaid i ni fod yn well na’ hynny.

“Ond roedd hefyd eglurder yn ystod y hanner amser a fe aethon ni nôl mas a sgori ceisiau da i gael y fuddugoliaeth.

“Mae agweddau rydym yn ymwybodol mae angen gwella, ond ar y cyfan dwi’n hapus gyda’r pum pwynt.”

Ychwanegodd Peel: “Y peth mwya’ i ni yw ein bod yma i gystadlu, rhywbeth soniais ar ddechrau’r tymor, rydym yma i gystadlu ac wedi bod yn gystadleuol ym mhob gêm. I ni wedi gwynebu cyfnodau anodd, colli’r gêm yn erbyn Connacht, roedd yr 20 munud yn yr ail hanner yn erbyn Caerdydd yn wan iawn, ond er hynny rydym wedi bod yn gystadleuol iawn a bydd y canlyniadau yn dilyn.

“Beth dwi’n gweld yw grwp o chwaraewyr sydd eisiau chwarae dros grys y Scarlets a dyna beth sy’n bwysig, ymladd am ein gilydd.”