Bydd cannoedd o welyau mewn ysbytai maes dros dro ar gyfer Covid-19 yn cael eu cadw yn Sir Gaerfyrddin rhag ofn y bydd eu hangen ar gyfer ail don.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno i gadw Ysbyty Enfys Selwyn Samuel yn ei gyfanrwydd a chadw rhan helaeth o’r ysbyty maes yn Ysbyty Enfys y Scarlets, yn dilyn trafodaethau â Chyngor Tref Llanelli a Pharc y Scarlets.
Fel y cadarnhawyd eisoes, bydd rhan o’r safle yn Ysbyty Enfys Caerfyrddin hefyd yn cael ei chadw rhag ofn y bydd ei hangen.
Mae’r cyngor a’r bwrdd iechyd wedi diolch i Cyngor Tref Llanelli a Pharc y Scarlets am eu cefnogaeth barhaus.
Yn y cyfamser, mae gwaith wedi mynd rhagddo’n gyflym ar ddatgomisiynu Ysbyty Enfys Llanelli, a fydd cyn hir yn cael ei ddefnyddio unwaith eto fel Canolfan Hamdden Llanelli; a’r gwaith o ddatgomisiynu Ysbyty Enfys Caerfyrddin yn rhannol, lle bydd y rhan fwyaf o’r safle yn cael ei ddefnyddio unwaith eto fel Canolfan Hamdden Caerfyrddin.
Yn Ysbyty Enfys y Scarlets, mae’r cyfleusterau ysbyty eisoes wedi’u datgomisiynu yn y brif stadiwm, gan adael ysbyty maes yn yr ysgubor pe bai ei angen yn y dyfodol.
Dywedodd Jon Daniels rheolwr rygbi cyffredinol y Scarlets: “Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd parhaus o gadw cyfleusterau’r ysbyty ar gyfer ein cymuned ac rydym yn falch o wneud hynny yma ym Mharc y Scarlets.
“Er y bydd yr ysgubor hyfforddi yn parhau i fod yn ysbyty maes, nid yw hyn yn effeithio ar ein gallu i weithredu fel stadiwm rygbi ar gyfer gemau yn y dyfodol a petai rheoliadau’r llywodraeth yn ein galluogi i groesawu cefnogwyr yn ôl.”
Bydd y rhan fwyaf o’r deunyddiau adeiladu sy’n cael eu symud o’r ysbytai maes yn cael eu hail-ddefnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda rhai o’r deunyddiau’n cael eu cynnig i elusennau cymunedol lleol sy’n ailddefnyddio ac yn atgyweirio, gan gynnwys Men’s Sheds.
Bydd cyfarpar, megis gwelyau, byrddau, sinciau a sgriniau preifatrwydd, i gyd yn cael eu storio a’u hail-ddefnyddio gan y bwrdd iechyd ar gyfer safleoedd ysbytai eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym yn rhyfeddu at ba mor effeithlon y mae’r contractwyr wedi gweithio er mwyn i ni ddefnyddio ein canolfannau hamdden unwaith eto – maent yn haeddu ein diolch. Rydym yn dal i gynllunio ar gyfer ailagor y canolfannau hyn yn raddol ym mis Hydref a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl dros yr wythnosau nesaf.”
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “O’r dechrau, yr her fwyaf yr ydym ni a’n partneriaid wedi’i hwynebu oedd yr angen i gydbwyso iechyd a llesiant cyhoeddus ein cymunedau â’r angen i’n cymdeithas a’n heconomi ddychwelyd at fath o normalrwydd, ac fel bwrdd iechyd rydym yn falch bod ein cynlluniau a’n hymateb parhaus i COVID-19 wedi ein galluogi i fod yn gadarn ac yn hyblyg.
“Ar yr un pryd, rhaid i ni bwysleisio nad yw’r feirws hwn wedi diflannu, a’n bod yn parhau i fod ar lefel uchel o barodrwydd er mwyn i ni allu darparu gwelyau’n gyflym ar fyr rybudd mewn sawl ardal os oes angen, yn enwedig wrth i ni agosáu at yr adeg gritigol ar ddechrau’r hydref a’r gaeaf.”