Dyma manylion pellach ar gyfer gwasanaeth goffa ein cyn gapten a llywydd y clwb Phil Bennett ym Mharc y Scarlets, a hunodd yn dawel ar Ddydd Sul yn 73 oed.
Bydd y wasanaeth yn cael ei chynnal ar Ddydd Gwener, Mehefin 24 am 11yb ym Mharc y Scarlets yn Llanelli (SA14 9UZ).
Manylion i fynychwyr
- Mae’r gwasanaeth yn agored i bawb i dalu teyrnged (nad oes angen i chi fod yn ddeiliaid tocyn tymor gyda’r clwb i fynychu).
- Gallwch fynd i mewn i’r Stand De trwy’r drysau ger y gatiau tro. Mae’r drysau’n agor am 9.30yb.
- Bydd maes parcio B ar agor (gyferbyn tafarn y Sessile Oak). Bydd yna maes parcio ychwanegol ar y diwrnod hefyd (TATA Steel).
- Gwahoddwyd i gefnogwyr a’r cyhoedd i wisgo crysau rygbi o’u dewis (e.e Clwb Rygbi Felinfoel, Scarlets, Llanelli, Cymru neu eich clwb lleol) i dalu teyrnged i Phil.
- Ni fydd y wasanaeth yn cael ei ddarlledu mewn unrhyw ffyrdd.
Gwybodaeth i deulu, ffrindiau a galarwyr gwadd
- Fe all teulu, ffrindiau a galarwyr gwadd cyrraedd trwy’r prif derbynfa yn y stadiwm.
- Bydd y derbynfa ar agor o 9:30yb.
- Cyn i’r gwasanaeth i ddechrau, mae gwahoddiad i deulu, ffrindiau a galarwyr gwadd i ymgynnull yn Lolfa Quinnell.
- Bydd parcio ar gael yn y brif maes parcio yn y stadiwm i’r gwesteion yma.
Rydym yn argymell i aelodau o’r cyhoedd i gyrraedd o fewn digon o amser cyn i’r gwasanaeth i ddechrau.
Cyhoeddir manylion pellach dros y diwrnodau nesaf.