Mae Pieter Scholtz yn paratoi am ei ddechreuad cyntaf i’r Scarlets yn gêm Guinness PRO14 fory yn erbyn Gleision Caerdydd (yn fyw ar S4C a Premier Sports).
Ers cyrraedd o Dde Affrica, mae’r prop 20-stone wedi dod oddi’r fainc yn ystod y buddugoliaethau yn erbyn y Gweilch a’r Dreigiau.
Ond mae cyrraedd y fan hon wedi bod yn frwydr i’r ddyn 26 oed.
Yn y misoedd diwethaf, mae Scholtz wedi:
• goresgyn chwarae i dîm a oedd prin wedi ennill gêm
• wedi cael ei adael â chyflogau di-dal yn dilyn fethdaliant y Southern Kings
• wedi mynd naw mis heb chwarae gêm
• Wedi treulio pythefnos yn gwarantin mewn gwesty yn Llanelli
• Wedi cael ei wahanu o’i bartner nôl ym Mhort Elizabeth yn dilyn holl hediadau yn cael ei wahardd yn sgil y coronafeirws
Pan oedd y Scarlets yn delio ag anafiadau i nifer o’r rheng flaen, roedd y prif hyfforddwr Glenn Delaney wedi ymateb yn gyflym i arwyddo Scholtz, sydd ag enw da am ei sgrymio caled.
Roedd Pieter yn gyflym i ymateb i’r cynnig hefyd, ar ôl treulio tair blynedd gyda’r Southern Kings yn De Affrica, ochr sydd wedi methu ffeindio’u traed yn ystod ymgyrch Guinness PRO14 ag ond enillodd pedair gêm mewn tri thymor.
“Y broblem gyda’r Southern Kings oedd y nifer o chwaraewyr oedd wedi’u drafftio i’r talaethau eraill”, dywedodd Scholtz.
“Fe ddaeth colli yn rhwybeth arferol
“Yn y flwyddyn ddiwethaf, cawsom ddatblygiad enfawr ymysg y chwaraewyr ifanc, ond wnaeth Covid achosi i bawb adael achos doedd dim arian yna.”
Erbyn mis Medi diwethaf, roedd y Kings heb geiniog ac yn gadael Pieter a’i gyd-chwaraewyr allan o boced.
“Rhyw pump neu bedwar diwrnod cyn i ni gael ein talu, fe alwon nhw bawb i mewn a dweud, ‘Sori, bois. Does dim arian. Ni fyddwch yn cael eich talu rhagor.
“Llwydais i safio bach o arian, ond i’r chwaraewyr ifanc oedd heb chwarae llawer hyd hynny, roedd y newyddion yna yn galed iddyn nhw.”
Yn anoddach i Scholtz, roedd y newyddion yma yn golygu ni fydd y prop wedi chwarae am ryw naw mis.
“Roedd hynny yn anodd yn feddyliol ar ôl iddynt gyhoeddi ni fyddwn yn cael ein talu rhagor. Chwaraeais diwethaf nôl ym mis Mawrth.”
Heb rygbi a heb arian, ac wedi dyweddïo yn ddiweddar, doedd dim amheuaeth yn ei benderfyniad pan gafodd y cynnig i ymuno’r Scarlets.
“Fe aeth rhai o’r chwaraewyr o’r Southern Kings draw i Ffrainc, ac mae rhai dal i glywed am gynigion felly dw i’n lwcus iawn i fod yma.
“Daeth cysylltiad o’r Scarlets i fy asiant a pan glywais am y cynnig dywedais, ‘Ble mae’r cytundeb? Wnâi arwyddo.’
“Roeddwn yn ymwybodol mae’r Scarlets oedd y tîm gorau yng Nghymru ac roedd nifer o chwaraewyr y Scarlets yng ngharfan Warren Gatland yn ystod y 14 gêm heb eu curo.
“Chwaraeais ym Mharc y Scarlets unwaith o’r blaen, ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae yma eto wrth wybod y fath o leoliad gwych sydd yma. Rwy’n hoffi Cymru, mae’n wlad gyfeillgar ac yn debyg i fy nghartref yn De Affrica ac mae Llanelli yn dref neis a thawel.”
Cyn iddo allu chwarae, roedd rhaid iddo gwblhau 14 diwrnod o gwarantin yng ngwesty’r Diplomat yn Llanelli.
“Teimlais yn unig iawn ond diolch byth am Netflix, gwyliais bopeth sydd ar ei gwefan.
“Roedd hi ychydig yn rhwystredig achos ro’n i fethu neud llawer. Roedd hi’n anodd bod mewn ystafell, ond roedd rhaid dilyn y rheolau.”
Erbyn hyn, mae Scholtz wedi chwarae 20 munud yn erbyn y Gweilch a 30 munud yn erbyn y Dreigiau – beth mae ei hyfforddwr Delaney yn ei alw’n dognau “bite-size” i ddyn sydd heb chwarae rygbi ers eisoes.
Dywedodd Delaney: “Mae Pieter yn gallu gwneud y sgiliau sylfaenol yn dda, yn mwynhau sgarmes, ac yn gallu clirio ryciau yn effeithlon.
“Mae Pieter yn ddyn da sydd yn ffitio i mewn ymysg y garfan yn dda. Mae ganddo enw da am ei sgrymio ac rydym eisiau cymryd mantais o hynny.
“Gan fod Pieter heb chwarae am ryw naw mis, rydym am roi’r amser iddo i ffeindio’i draed.”
Mae’r chwaraewr ei hun yn edrych ymlaen at allu rhannu ei ddylanwad gyda’i gyd-chwaraewyr newydd, er fydd rhaid iddo aros ychydig nes iddo allu chwarae o flaen ein cefnogwyr.
“Hoffwn aros yn hirach na’r tymor hwn a chael cytundeb estynedig. Rwy’n gwireddu breuddwyd wrth chwarae gyda thîm mewn gwlad arall.
“Mae gan y Scarlets rhai o’r chwaraewyr gorau yn y byd ac rwy’n credu fe allwn ennill nifer o bethau. Ken Owens ydy un o’r bachwyr gorau yn y byd, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae wrth ei ochr.”
O ran y Gleision a’r cynnwrf yn dilyn ymadawiad ei phrif hyfforddwr John Mulvihill yr wythnos hon, mae Scholtz yn barod i brofi ei werth.
“Nad wyf yn siŵr o beth sydd wedi digwydd gyda’r Gleision, mae rhaid i ni ffocysu ar ein hunain.
“Teimlaf fy mod wedi torri tir newydd yn feddyliol wrth allu chwarae rygbi eto, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae.”
S4C – Dydd Sadwrn, 19.15: Clwb Rygbi – Gleision Caerdydd v Scarlets
Darllediad byw o’r gêm Guinness PRO14 rhwng Gleision Caerdydd a Scarlets, o Stadiwm Dinas Caerdydd. Sylwebaeth Saesneg ar gael. G/C 7.35.