Pivac yn enwi chwe Scarlet yn nhîm Cymru i chwarae Seland Newydd

Rob LloydNewyddion

Mae Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yng Nghyfres yr Hydref ar Ddydd Sadwrn, gan groesawu Seland Newydd i stadiwm y Principality.

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi enwi ochr sy’n cyfuno profiad gyda thalent ifanc y wlad ar gyfer gêm agoriadol y gyfres.

Y capten Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm i’r cae, o flaen cynulleidfa capasiti llawn am y tro cyntaf ers Chwefror 2019, oherwydd pandemig Covid-19, a fydd yn ennill y teitl o fwyaf o gapiau rhyngwladol gan chwaraewyr rygbi erioed.

Bydd Jones yn gwneud ei 149 ymddangosiad i Gymru ar Ddydd Sadwrn, gan rhagori record Richie McCaw o 148 o ymddangosiadau i’r Crysau Duon.

Mae Pivac wedi enwi rheng flaen brofiadol gyda’r Llew a chyd-chwaraewyr y Scarlets Wyn Jones a Ryan Elias gyda prop y Gweilch Tomas Francis yn eu ymuno. Ail rheng o chwaraewyr y Gweilch gyda cyfuniad Adam Beard a’r capten Jones. Rheng ôl o Ddreigiau gyda triawd Ross Moriarty, Taine Basham ac Aaron Wainwright yn cychwyn.

Dyma fydd dechreuad cyntaf Basham i Gymru ers wneud ei ymddangosiad cyntaf i’w wlad yn erbyn Canada yn yr haf, gan sgori cyfres o geisiau.

Tomos Williams o Rygbi Caerdydd a Gareth Anscombe o’r Gweilch sydd yn cychwyn fel mewnwr a maswr. Cyfuniad o Scarlets yng nghanol ae gyda Johnny Williams a Jonathan Davies gyda asgellwyr Rygbi Caerdydd Josh Adams ac Owen Lane yn ymuno a chefnwr y Scarlets Johnny McNicholl.

“Mae’r grwp wedi canolbwyntio ar eu ymarfer dros y pythefnos diwethaf, maen nhw wedi gweithio’n galed iawn. Rydym wedi bod yn isel o ran niferoedd wythnos yma felly nad yw’r paratoadau wedi bod yn berffaith felly mae hynny wedi ein herio,” dywedodd prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac.

“Mae’r bois yn edrych ymlaen yn fawr at y dasg. Y realiti yw rydym dwy flynedd i ffwrdd o Gwpan y Byd ac rydym yn adeiladu tuag at hynny. Mae gennym y Chwe Gwlad rownd y cornel ac rydym am ennill y twrnamaint yna eto.

“Maent yn gwybod o’r her o’u blaenau. Mae pob chwaraewr ifanc wrth dyfu i fyny eisiau chwarae yn stadiwm y Principality o flaen cynulleidfa o 75,000, ac os ofynnwch pwy mae nhw eisiau chwarae yn erbyn Seland Newydd fydd un o’r timau.

“Gyda sawl anaf a chwaraewyr ddim ar gael mae hyn yn gyfle da i chwaraewyr fel Taine Basham a Ben Thomas i ddod i mewn i’r grwp a chael y profiad. Bydd y bois yn dod o’r gêm yma yn gwybod beth mae fel i chwarae yn erbyn un o dimau gorau yn y byd.

“I ennill Cwpan y Byd mae rhaid chwarae yn erbyn timau fel Seland Newydd ar rhyw adeg yn y twrnamaint ac mae rhaid ennill y gemau hynny. Mae mynd i fod yn brofiad anhygoel i’r bois sydd heb chwarae llawer o rygbi prawf ac fyddyn nhw’n sicr yn cofio’r teimlad ar ôl chwarae.”

Tîm Cymru i chwarae Seland Newydd, yn Stadiwm y Principality, ar Ddydd Sadwrn 30th Hydref 2021;

15 Johnny McNicholl, 14 Owen Lane, 13 Jonathan Davies, 12 Johnny Williams, 11 Josh Adams, 10 Gareth Anscombe, 9 Tomos Williams, 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Tomas Francis, 4 Adam Beard, 5 Alun Wyn Jones (c), 6 Ross Moriarty, 7 Taine Basham, 8 Aaron Wainwright

Eilyddion

16, Kirby Myhill, 17 Rhys Carre, 18 Dillon Lewis, 19 Will Rowlands, 20 Seb Davies, 21 Gareth Davies, 22 Rhys Priestland, 23 Ben Thomas