Pleidleisiwch am eich chwaraewr y mis am fis Ebrill
Mae’n amser i bleidleisio am eich chwaraewr y mis Olew Dros Gymru am fis Ebrill.
Yn dilyn colled siomedig yn rownd 16 o’r Cwpan Pencampwyr yn erbyn Sale a’i ddilyn gan golled yn rownd agoriadol o Gwpan yr Enfys, mae Ebrill wedi bod yn fis heriol i’r Scarlets.
Ond mae tri chwaraewr wedi dal sylw.
Dane Blacker
Mae’r mewnwr wedi mwynhau tymor gwych gan groesi am gais unigol yn ystod y gêm yn Rodney Parade am gyfanswm o saith o geisiau y tymor yma. Mae hyn wedi agor y drws i’w gael ei gynnwys yn nhaith Cymru haf yma o bosib.
Ryan Elias
Cafodd ei wobrwyo gyda’r gapteniaeth am y tro cyntaf yn erbyn y Dreigiau ac fe lwyddodd i gadw at ei air gan arwain o’r blaen yn Rodney Parade. Cariodd am gyfanswm o 65 medr, y fwyaf gan unrhyw chwaraewr rheng flaen yn y rownd agoriadol o’r gystadleuaeth.
Jake Ball
Enillodd Jake ei 50fed cap i Gymru yn ystod yr ymgyrch Chwe Gwlad lwyddiannus ac ers hynny wedi dychwelyd i Barc y Scarlets gan arddangos digon o ymosod yng nghalon pac y Scarlets.
Gallwch bleidleisio am ei chwaraewr y mis ar ein cyfrif Trydar ar @scarlets_rugby neu trwy glicio ar y ddolen yma i lenwi ffurflen ar-lein.