Mae’n amser i bleidleisio am eich Chwaraewr y Mis am fis Rhagfyr am gyfle i ennill taleb gwerth £100 i wario ar Castore.
Mae’r wobr yn cynnwys y gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn DHL Stormers, Emirates Lions a’r Gweilch yn ogystal â’r gemau Cwpan Her yn erbyn Aviron Bayonnais a Toyota Cheetahs.
Dyma’r pedwar enwebydd
Sione Kalamafoni
Enillydd o’r wobr mis Hydref, mae Sione wedi parhau i berfformio yn yr ail reng ac fel wythwr. Fe oedd seren y gêm yn erbyn y Cheetahs, ac fe rhoddodd berfformiad cryf yn erbyn y Gweilch hefyd.
Sam Costelow
Yn parhau i godi’r safon fel rhif 10, serenodd Sam yn erbyn Bayonne gan ennill wobr seren y gêm ac fe ddisgleiriodd eto yn Parma yn erbyn y Cheetahs.
Dane Blacker
Ar ôl bod yn rhan o garfan Cymru yn yr Hydref, wnaeth Blacker dychwelyd i’r Scarlets gyda pwynt i brofi gyda’i chwarae siarp. Sgoriodd y gais fuddugol yn erbyn Bayonne.
Josh Macleod
Ar ôl colli mas ar daith i Dde Affrica, mae Macleod wedi chwarae rhan hanfodol yn rheng ôl y Scarlets. Rhagorodd yn erbyn y Gweilch ar Ddydd San Steffan, yn dilyn perfformiadau cryf yn Ewrop.
I bleidleisio ewch YMA gyda’r enillydd o’r taleb yn cael ei ddewis ar hap ar Ionawr 5.