Os ydych yn mynychu’r gêm nos Wener rhwng Tîm Datblygu’r Scarlets a Tîm A y Gweilch ym Mharc y Scarlets dyma beth sydd angen i chi wybod
Oes angen pás COVID i fynychu’r gêm?
Gan ddilyn canllawiau’r llywodraeth, gyda’r teras ddim yn cael ei ddefnyddio, NI FYDD ANGEN PÁS COVID i ddod i mewn i’r stadiwm. Rydym yn annog cefnogwyr i gymryd prawf lateral flow cyn cyrraedd.
Os ydw i wedi derbyn canlyniad positif o Covid-19, beth dylai wneud?
Os ydych wedi dychwelyd prawf COVID-19 positif o fewn 10 diwrnod i ddyddiad y gêm, ni allwch fynychu’r gêm.
Oes angen gwisgo mwgwd?
Rydym yn awgrymu i gefnogwyr gwisgo mwgwd pan tu fewn y ‘concourse’. Rydym yn annog i gefnogwyr ddod â mwgwd i wisgo pan tu fewn y stadiwm, er mwyn dilyn canllawiau ar gyfer llefydd caeedig.
Oes tocynnau ar gael i’w brynu ar y diwrnod?
Oes. Mae tocynnau i oedolion yn £5 a £3 i blant. Mae plant o dan 6 am ddim.
Beth fydd ar agor?
Dim ond Stand y De fydd ar agor am y gêm. Gyda’r tocynnau yn cae eu gwerthu ‘first come first serve’, ni fydd deiliaid tocyn tymor yn eistedd yn eu seddi arferol.
Ydy’r siop ar agor?
Ydy, tan 7yh.
Ble allai barcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Parc Trostre. Mae’n costi £5 y car ac rydych yn talu ar y gât sydd ar agor o 4:30yp.
Pryd mae’r gatiau’n agor?
I’r cyhoedd o 6yh.
Oes shuttle bus i’r gêm?
Does DIM bws wennol ar gyfer y gêm hon.
Ydy’r ciosg bwyd a diod ar agor?
Ydy. Gydag ond y Stand De ar agor bydd bwyd a diodydd ar gael ar lefel 1. Bydd ein gwasanaeth clic a chasglu ar gael o’r ciosg yma.
https://goodeats.io/South1Kiosk – South Food Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S2 – South Beer Kiosk
Ydy Pentref y Cefnogwyr a Bar Guinness ar agor?
Ni fydd y barn neu’r bar Guinness ar agor heno.