Mae’r Scarlets yn gallu cadarnhau bod y prop penrhydd Phil Price wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.
Ymunodd Price, 29, â’r Scarlets ar gytundeb benthyg o’r Dreigiau ym mis Ionawr.
Mae wedi chwarae chwech gêm yng nghrys y Scarlets, dau yng Nghpwn Eingl-Gymreig a phedwar yn y Guinness PRO14.
Yn ogystal ag ymestyn y cytundeb fenthyg hyd ddiwedd y tymor mae wedi arwyddo cytundeb newydd ar gyfer y tymor newydd.
Cafodd Price ei ddethol ar gyfer garfan dan 20 Cymru a gyfer Cwpan y Byd Belfast yn 2008. Chwaraeodd ei rhan yn y tîm a orffenodd yn bedwerydd. Chwaraeodd i Gymru dan 18 a dan 19.
Ers ymuno â’r Dreigiau ar gyfer tymor 2009-10 chwaraeodd 159 o gemau i’r rhanbarth, gan sgori chwech cais.
Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni wedi ein plesio gyda Phil ers iddo ymuno â ni ar ddechrau’r flwyddyn, mae wedi cymryd y cyfle ac wedi gwneud yn dda iawn.
“Mae dyfnder yn bwysig ac yn rhywbeth sy’n rhaid ei gael os ry’n ni am barhau if od yn gystadleuol yn y Guinness PRO14 ac yn Ewrop. Mae cael chwaraewyr o brofiad Phil yn y garfan yn help mawr wrth i ni ddatblygu chwaraewyr ifanc y garfan ond hefyd yn sicrhau ein bod ni’n parhau yn gystadleuol yn ystod y cyfnod rhyngwladol.”
Ychwanegodd Phil Price; “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r hyfforddwyr yma yn y Scarlets ac y cyfleoedd yr wyf wedi cael hyd yn hyn. Rwyf wedi cael croeso arbennig ac mae’r bois wedi bod yn gret. Mae yna cwpwl o fisoedd cyffrous iawn o’n blaenau ac rwy’n gobeithio gallu chwarae fy rhan.
“Hoffwn ddiolch i bawb yn y Dreigiau am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd. Roedd yn anrhydedd cael cynrychioli’r rhanbarth ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt am weddill y tymor.”