Er mwyn atgyfnerthu’r garfan, mae’r Scarlets wedi arwyddo prop WillGriff John o Siarcod Sale ar gyfer tymor 2021-22.
Ymunodd â Siarcod Sale pedwar tymor yn ôl. ac oherwydd ei dull chwarae nodedig yn Uwch Gynghrair Gallagher cafodd ei gynnwys yng ngharfan y Chwe Gwlad llynedd.
Cafodd ei ddechreuad gyda chlwb Pontypridd, ac fe gychwynnodd ei yrfa broffesiynol gyda Gleision Caerdydd, ac mae ganddo brofiad yn y Gynghrair Saesneg gyda Doncaster Knights a gyda thîm Northland yn Seland Newydd. Roedd yn rhan o garfan Cymru yn ystod Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd d20.
Yn mesur 6’3” ag yn 19st 11pwys, mae’r dyn 28 oed wedi creu enw da i’w hun fel cludwr pêl a sgrymiwr, fydd yn ychwanegu’n fawr at ein rheng flaen gryf pan fydd yn ymuno a’r garfan yn ystof yr haf.
“Mae WillGriff yn chwaraewr sydd wedi creu enw da iddo’i hun trwy chwarae yn y Gynghrair gyda’r Siarcod ac mae’n wych i’w gael yn ôl yng Nghymru.” dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney.
“Roedd ar fin ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn yr Alban llynedd cyn i’r gêm gael ei gohirio oherwydd Covid, ac mae’n awyddus i ail-ymuno’r garfan ryngwladol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei groesawu i Barc y Scarlets yn yr haf.”
Dywedodd John: “Dwi wrth fy modd i fod yn ymuno a’r Scarlets tymor nesaf. Maen nhw’n dîm sydd yn enwog am eu steil o chwarae sydd wedi’i seilio ar ddarn gosod cryf ac rwyf yn edrych ymlaen at ymuno a’r rhanbarth yn yr haf. Mae gen i deulu ifanc felly fydd hi’n braf cael bod yn agosach i gartref ar ôl bod i ffwrdd o Gymru am salw flwyddyn. Ar ôl siarad gyda Glenn, rwy’n ymlaen at ymuno’r a’r garfan a gobeithio cael chwarae rhan yn llwyddiant y clwb.
“Mae cefnogwyr y Scarlets ledled y byd yn cael eu hadnabod i fod yn ffyddlon iawn ac mae gan y clwb hanes gwych. Mawr obeithiaf, os fydd y pandemig yn ein caniatáu, byddwn yn gallu rhedeg allan o flaen cefnogwyr ym Mharc y Scarlets erbyn tymor nesaf.”
Mae John wedi gwneud 82 o ymddangosiadau i’r Siarcod ers iddo ymuno yn 2017.
Ychwanegodd: “Dwi wedi mwynhau fy amser gyda Sale ac rwy’n gwerthfawrogi pob cyfle dwi wedi cael yma. Mae gennym dîm cryf ac rwy’n benderfynol ar orffen y tymor ar nodyn uchel.”
John ydy’r chwaraewyr newydd cyntaf mae’r Scarlets wedi arwyddo ar gyfer ymgyrch 2021-22. Mae rheng-flaenwyr Wyn Jones a Javan Sebastian yn barod wedi arwyddo cytundebau gyda’r clwb a fydd cyhoeddiadau ar gyfer cytundebau newydd i ddod dros yr wythnosau nesaf.