Wyn Jones fydd y chwaraewr diweddaraf i gyrraedd 100 o ymddangosiadau i’r clwb pan fydd yn rhedeg allan yn erbyn y Dreigiau ar Ddydd Calan (17:15; S4C, Premier Sports).
Chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r clwb yn erbyn Caerloyw yn 2014 ac erbyn hyn yn chwarae ei wythfed tymor i’r Scarlets.
Mae’r chwaraewr o Lanymddyfri wedi’i henwi yn y XV i wynebu’r Dreigiau, ochr sydd yn dangos chwe newid o’r tîm trechodd y Gweilch ar Ddydd San Steffan.
Bydd Angus O’Brien yn chwarae safle’r cefnwr yn dilyn perfformiad gwych yn erbyn y Gweilch. Roedd Liam Williams yn agos iawn i ddychwelyd o’i anaf ond mae’r cefnwr yn wedi derbyn mwy o amser er mwyn iddo wella yn gyflawn.
Bydd O’Brien a chyn-chwaraewr y Dreigiau, Tom Prydie gyda Steff Evans ymysg y cefnwyr. Mae Tom Rogers wedi anafu ei ben-glin ac felly ddim ar gael ar gyfer y gêm. Tyler Morgan a wnaeth ddod o Rodney Parade yn yr haf fydd yn bartner i Steff Hughes yn y canol tra bod Dan Jones a Kieran Hardy yn parhau fel haneri.
Parhawyd y rheng flaen o Wyn Jones, Ryan Elias a Javan Sebastian, wrth i Sam Lousi dychwelyd ar ôl seibiant o bythefnos ac yn ymuno a Jake Ball yn yr ail reng.
Mae ‘na thriawd newydd i’r rheng ôl. Blade Thomson yn wych o’r fainc yn erbyn y Gweilch, ac yn ennill safle’r blaenasgellwr ochr dywyll; Sione Kalamafoni yn dychwelyd i’r rhif 8, wrth i Dan Davis ddechrau ei gêm gyntaf yn y PRO14 ar yr ochr agored. Mae Davis yn eilydd i Josh Macleod a gafodd anaf yn dilyn yr ail hanner yn erbyn y Gweilch.
Mae yna dau newid ymysg yr eilyddion. Ed Kennedy sy’n barod ar gyfer yr ail reng, tra bod Paul Asquith, Sam Costelow a Gareth Davies yn barod ar gyfer y cefnwyr.
Scarlets v Dreigiau (Dydd Gwener, Ionawr 1 (17:15, S4C, Premier Sports)
15 Angus O’Brien; 14 Tom Prydie, 13 Tyler Morgan, 12 Steff Hughes (capt), 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Jake Ball, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.
Reps: 16 Marc Jones, 17 Phil Price, 18 Pieter Scholtz, 19 Tevita Ratuva, 20 Ed Kennedy, 21 Gareth Davies, 22 Sam Costelow, 23 Paul Asquith.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Ken Owens (ysgwydd), Liam Williams (pigwrn), Johnny Williams (calf), Lewis Rawlins (gwddf), Tomi Lewis (penglin), Alex Jeffries (pen-elin), Tom Phillips (clun), Dylan Evans (ysgwydd), Taylor Davies (ysgwydd), Samson Lee (cyfergyd), Jac Morgan (penglin), Jac Price (pigwrn), Josh Macleod (pigwrn), Tom Rogers (penglin), Rob Evans, Rhys Patchell, James Davies, Aaron Shingler.