Y prif hyfforddwr Dwayne Peel sydd wedi penderfynu ar bum newid i’r tîm i ddechrau yn erbyn Caeredin yn rownd 14 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Stadiwm Hive ar nos Sadwrn (19:35; Premier Sports).
Taine Plumtree sydd yn ymddangos am y tro cyntaf ers y bedwaredd rownd yn erbyn Emirates Lions ym mis Tachwedd, wrth iddo’i gydchwaraewyr rhyngwladol Johnny Williams, Sam Costelow, Gareth Davies a Kemsley Mathias hefyd dychwelyd i’r ochr.
Y bartneriaeth yn y tri ôl o Ioan Nicholas, Tom Rogers a Tomi Lewis sydd yn parhau yn dilyn ymddangosiad y triawd yn erbyn Glasgow yn y gêm ddiwethaf. Williams sydd nôl i ymuno ag Eddie James yng nghanol cae, wrth i Costelow a Davies cydweithio fel ein haneri. Nid yw Ioan Lloyd ar gael oherwydd anaf llinyn y gar.
Mathias sydd wedi’i enwi yng nghrys rhif 1 ac yn ymuno â Ryan Elias a Sam Wainwright.
Alex Craig a Sam Lousi sydd yn parhau yn yr ail reng, gyda Plumtree yn dod i mewn fel blaenasgellwr yn y rheng ôl sydd hefyd yn cynnwys Vaea Fifita a Dan Davis.
Ar y fainc, mae’r mewnwr ifanc Archie Hughes yn cael cyfle arall yn y garfan o 23.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Yn amlwg, ni’n siomedig gyda’n perfformiad yn erbyn Glasgow ar ôl mynd i mewn i’r gêm yna yn dilyn buddugoliaeth anodd yn erbyn Benetton. Mae yna gyfle nawr i fynd i Gaeredin i gywiro ein camgymeriadau. Ni wedi cael seibiant bach, amser i edrych nôl dros ein gwaith ac i ni’n edrych ymlaen at weddill y tymor. Mae yna pum gêm ar ôl a chyfleoedd i fois camu i fyny, a hefyd cyfle i ffeindio momentwm.”
Tîm y Scarlets i chwarae Edinburgh yn Stadiwm Hive ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 20 (19:35; Premier Sport)
15 Ioan Nicholas; 14 Tom Rogers, 13 Johnny Williams, 12 Eddie James, 11 Tomi Lewis; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias (capt), 3 Sam Wainwright, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Taine Plumtree, 7 Dan Davis, 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Wyn Jones, 18 Harri O’Connor, 19 Morgan Jones, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Archie Hughes, 22 Dan Jones, 23 Ryan Conbeer
Chwaraewyr ddim ar gael oherwydd anaf
Ioan Lloyd, Steff Evans, Joe Roberts, Jarrod Taylor, Josh Macleod, Isaac Young, Teddy Leatherbarrow, Jac Davies.