Mae pum Scarlet wedi cael eu henwi yn y Ultimate XV All-Star Rhanbarthol sydd wedi cael ei bleidleisio gan gefnogwyr ar-lein.
Llwyddodd y cefnwr Liam Williams i herio y cyn-Scarlet Lee Byrne (yn cynrychioli’r Gweilch) i hawlio’r crys Rhif 15, gan ymuno â’r bachwr Ken Owens, yr ail reng Tadhg Beirne, y maswr Stephen Jones a’r canolwr Jonathan Davies yn y rhestr tim gyfan.
Mae yna ddau Scarlet arall ar y fainc hefyd gyda’r prop pen tynn John Davies a’r mewnwr Dwayne Peel yn gorffen yn ail yn eu pleidlais.
Gyda’i gilydd, mae’r ochr yn cynnwys 13 o Lewod Prydain ac Iwerddon gyda phum Scarlet, pum Gweilch, pedwar o Gleision Caerdydd a Rhif 8 Taulupe Faletau yn chwifio’r faner dros y Dreigiau.
Mewn cydweithrediad â chwmni technoleg Caerdydd Doopoll, mae pedwar rhanbarth Cymru wedi dod ynghyd i gadw cefnogwyr rygbi Cymru i ymgysylltu yn ystod cyfnod Covid-19.
Dechreuodd y pleidleisio gyda gofyn i gefnogwyr ddewis eu chwaraewyr gorau ym mhob safle o’r oes ranbarthol, cyn i’r frwydr ddechrau gyda’r gorau o’r gorau.
Mae mwy na 20,000 o bleidleisiau wedi cael eu bwrw dros y tair wythnos ddiwethaf gan arwain at yr ochr olaf, gyda capten Cymru Alun Wyn Jones yn cael ei ddewis. Fe wnaeth cyn-Scarlets a hyfforddwr presennol Cymru, Wayne Pivac, y cyhoeddiad olaf ddydd Mawrth i ddod â’r bleidlais #UltimateXV i ben.
All-Star Ultimate XV
1 Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), 2 Ken Owens (Scarlets), 3 Adam Jones (Gweilch), 4 Tadhg Beirne (Scarlets), 5 Alun Wyn Jones (Gweilch), 6 Josh Navidi (Gleision Caerdydd), 7 Justin Tipuric (Gweilch ), 8 Taulupe Faletau (Dreigiau); 9 Mike Phillips (Gweilch), 10 Stephen Jones (Scarlets), 11 Shane Williams (Gweilch), 12 Jamie Roberts (Gleision Caerdydd), 13 Jonathan Davies (Scarlets), 14 Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), 15 Liam Williams (Scarlets) .
Eilyddion: 16 Richard Hibbard (Y Gweilch), 17 Duncan Jones (Y Gweilch), 18 John Davies (Scarlets), 19 Luke Charteris (Dreigiau), 20 Martyn Williams (Gleision Caerdydd), 21 Dwayne Peel (Scarlets), 22 Dan Biggar (Y Gweilch), 23 Lee Byrne (Y Gweilch).